Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

2 Mae yma drugareddau rhad
I'r tlawd a'r llariaidd rai,
A rhyw fendithion maith yn 'stor,
Sy fythol yn parâu.
3 'D oes yma eisiau fyth yn bod;
Trysorau gras sy 'n llawn,
Er maint yr yfed a'r glanâu
O fore hyd bryd nawn.
4 Fe welir myrdd, pen gronyn bach,
O'r dwyrain ac o'r de,
Yn cyd adseinio 'n hyfryd am
Ei ryfedd gariad E'.
29.
8.7.4.
FFYNON CALFARIA.
1 BECHADURIAID, dowch i'r ffynon
A agorwyd ar y bryn;
Hon a ylch eich beiau duon,
Ac a'ch càna 'n berffaith wyn;
Dowch yn fuan,
30.
Pa'm yr oedwch ddim yn hwy.
M. C. C.
BEDYDD YR YSBRYD.
1 BEDYDDIA fi, O Ysbryd glân,
A'th dân galluog nerthol;
Fel byddo i farn a llosgfa fod
Ar bechod yn wastadol.
2 O golch fi beunydd, golch fi 'n lân,
Golch fi yn gyfan, Arglwydd;
Fy nwylaw, calon, pen, a'm traed,
Golch fi a'th waed yn ebrwydd.
Google