3 Gwasgara weddill pechod cas,
Sel fi a'th ras yn drigfan,
Yn berffaith hardd, yn deml wiw,
Adeilad Duw ei hunan.
31.
M. H.
GWAGEDD Y BYD A FFYDDLONDEB CRIST.
1 BETH dâl im' roi fy serch a 'mryd
Ar ddim a welais yn y byd?
Da, daear, dyn, pa gysur yw
Y dydd y del digofaint Duw?
2 Pan fyddwy 'n wyneb angau du,
Heb gael ond cefn pob cyfaill cu;
Pryd hyn pwy gymmorth f' enaid gwan,
I ddringo o'r anial fyd i'r làn ?
3 Pan fyddwy 'n myn'd o'r dywell wlad,
Fy Iesu, bydd fy nghyfaill mad;
Pa frawd, pa chwaer, pa geidwad gwell,
A'm hebrwng i'r ardaloedd pell?
32.
1
M. 8.7.
YR UDGORN ARIAN.
BETH yw 'r udgorn glywai 'n seinio?
Brenin Silo sydd yn gwa'dd:
Pwy sy 'n cael eu galw ganddo ?
Pechaduriaid o bob gradd.
Adre, adre, blant afradlon,
Gadewch gibau gweigion ffol;
Y mae llais y Brenin heddyw
'N para i alw ar eich hol.
2 Pa'm y geilw 'r Brenin arnom?
Am ei fod yn llawn o ras:
Beth a wna i'r drwg sydd ynom ?
Gylch â'i waed bob pechod cas.
Google
Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/88
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
