Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadydd 1841.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Fe dorodd rym yr hen
Iorddonen ddu:
Gorchfygodd angau cryf,
Er awch ei gleddyf glas,
A drylliodd rwymau 'r bedd:
O ryfedd ras!
2 Crist yw ein cadarn dwr,
Gwaredwr yw;
Dan gysgod tawel hwn
Y byddwn byw;
Fe arwain ei holl saint,
Er cymmaint llid eu cas,
I mewn i'r nefol wledd:
O ryfedd ras!
3 Wrth orphwys ar yr Iawn,
Ni gawn i gyd,
Felusion ffrwythau 'r groes
Drwy 'n hoes o hyd:
Mae yma hyfryd win
I flin, o beraidd flas;
Maddeuant pur a hedd:
O ryfedd ras!
4 Yn rawnwin ar y groes
Fe droes y drain;
Caed balm o archoll ddofn
Y bicell fain;
Dechreuwn fawl cyn hir
Na flinir ar ei flas,
Am Iesu 'r aberth hedd;
O̟ ryfedd ras!
79
Google