Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
36.
1
BOED
M. C.
YR IAWN.
OED dyoddefiadau pur y groes
Fel olew i'm hiachâu;
Griddfanau dyfnion angau loes,
I'm rhoddi i lawenâu;
2 Marwolaeth fy Ngwaredwr mawr,
Yn fywyd pur i mi,
Fel gallwyf roddi oll i lawr
Yn gof am Galfari.
3 Na bydded gwag ofalon byd,
Na chroesau o un rhyw,
I'm hoeri, nac i sugno 'mryd
Un dim oddiwrth fy Nuw.
37.
1
2
M. 2. 8.
CYMMUN Y SAINT.
BRAINT, braint,
Yw cael cymdeithas gyda 'r saint,
Na welodd neb erioed ei maint;
Ni ddaw un haint fyth iddynt hwy;
Y mae'r gymdeithas yma 'n gref,
Ond yn y nef hi fydd yn fwy.
Gwledd, gwledd,
O fywyd a thragwyddol hedd,
Sydd yn y byd tu draw i'r bedd;
Ond hardd fydd gwedd y dyrfa i gyd,
Sy 'n byw ar haeddiant gwaed yr Oen,
O swn y boen sy yn y byd.