38.
M. 8. 7.
CRIST YN DERBYN PLANT BYCHAIN.
BUGAIL Israel sydd ofalus
Am ei dyner anwyl ŵyn;
Mae 'n eu galw yn groesawus,
Ac yn eu cofleidio 'n fwyn.
2 "Gadewch iddynt ddyfod ataf,
"Ac na rwystrwch hwynt," medd ef;
"Etifeddiaeth lân hyfrytaf,
"I'r fath rai yw teyrnas nef."
3 Deuwn, Arglwydd, â'n rhai bychain,
A chyflwynwn hwynt i ti;
Eiddot mwyach ni ein hunain,
A 'n hiliogaeth gyda ni.
4 Dewch, blant bychain, dewch at Iesu,
Ceisiwch wyneb Brenin nef;
Hoff eich gweled yn dynesu
I'ch bendithio ganddo ef.
39.
1
2
M. 2. 8.
MAWL I'R OEN.
BYDD, bydd
81
Rhyw ganu peraidd iawn ryw ddydd,
Pan ddelo 'r caethion oll yn rhydd;
Fe droir eu ffydd yn olwg fry;
Cydunant byth heb dewi a son,
I foli 'r Oen fu ar Galfari.
Gwledd, gwledd
Sydd eto 'n bod tu draw i'r bedd,
Dros fyth i'w chael i'r gwael eu gwedd;
Lle bydd caniadau maith di ri'
I bara beunydd yn ddi boen,
Gan foli 'r Oen fu ar Galfari.