Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

etholwyd, i'r apostolion.' Ond beth a ddywed St. Paul?—Gan wybod, FRODYR anwyl, eich etholedigaeth chwi gan Dduw.' Clywch eto beth a ddywed y tyst Calfinaidd, Ni roddwyd gwybod hyn, sef pwy a brynwyd i'r apostolion.' Ond clywed pob calon beth a ddywed y tyst apostolaidd ar hyn; Yr hwn a'i rhoddes ei hun yn bridwerth dros BAWB!!' Yn awr gofynaf finau, Pa un ai gan y Wesleyaid, y rhai ydynt o'r un farn a Phaul, neu gan y Calfiniaid anwybodus, y mae y sail oreu i alw dynion i edifeirwch? Rhyfedd mor debyg i'r Pabyddion ydyw'r Calfiniaid o blaid anwybodaeth! Dywed y Pab mai anwybodaeth yw mamaeth duwioldeb, a dywed y Calfiniaid, er eu gwarth, mai anwybodaeth yw sail eu pregethu. Na fynegwch hyn yn Gath, ac na chyhoeddwch ef yn heolydd Askelon.'" !!! .

Gwnaeth y llyfr hwn ei waith yn effeithiol, ac ni chyhoeddwyd yr un atebiad uniongyrchol iddo, a hyny yn ddiameu am y teimlid ei fod yn anatebadwy. Ar ol cyhoeddiad y llyfr hwn diflanodd uchel—Galfiniaeth o bwlpudau Cymru i raddau helaeth iawn, a phrawf o hyn ydyw fod y Calfiniaid wedi myned i ddadleu a'u gilydd ar yr athrawiaeth. .C Yn yr un flwyddyn ag y cyhoeddwyd Calfiniaeth yn cael ei dadlenu," &c., dygwyd allan "Amddiffyniad i'r Athrawiaeth Ysgrythyrol o Brynedigaeth neillduol, yn cael ei gosod allan a'i chadarnhau mewn pedair o bregethau a bregethwyd yn Lime Street, Llundain, gan y Parch. John Hurrion, un o weinidogion yr Ymneillduwyr, yn nghyd å byr hanes o fywyd yr Awdwr. Wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg gan Evan Evans. Trefriw: Argraffwyd gan J. Jones, 1820.' Am y llyfr hwn dywed y Parch. O. Thomas, D.D., fel y canlyn:—

"Ar anogaeth y Parch John Elias yr ymgymerodd Mr. Evan Evans a chyfieithu a chyhoeddi y pregethau hyn, yn hytrach na dwyn allan atebiad o'i eiddo ei hun i lyfr Mr. Davies, ac felly fe ysgrifenwyd rhagymadrodd byr iddynt gan Mr. Elias. Yr oedd y rhagymadrodd hwn yn amlwg yn cael ei fwriadu nid yn unig yn erbyn y syniadau Arminaidd ar brynedigaeth, a amddiffynid gan y Wesleyaid, ond hefyd, ac yn arbenig yn erbyn y golygiadau eang ar Ddibenion Marwolaeth Crist,—y dadleuid drostynt erbyn hyn yn Nghymru gan liaws a gydnabyddid yn Galfiniaid, ac y mae yr awdwr ynddo, yn ol ei arfer, yn defnyddio faith gref, mewn tôn braidd yn anffaeledig, i osod allan ei olygiadau ei hunan ar y pwnc, ac er condemnio y rhai a wahaniaethant oddiwrtho. Anaml braidd y gwelsom, mewn cyn lleied cylch, awgrymiadau mwy anfrawdol nag a geir yma: nid ydym yn synu iddo, trwy y rhagymadrodd hwn, lwyddo mwy i ddolurio teimladau dynion da o olygiadau gwahanol, nag a wnaeth i gadarnhau eraill ynddo, heb son am enill neb o'r newydd drosodd, i'w syniadau ei hun."

Ar ol hyn cyhoeddwyd "Llythyr at y Parchedig John Elias, yn cynwys sylwadau ar ei ragymadrodd i bregethau