y diweddar Mr. Hurrion ar Brynedigaeth. Gan John Griffiths, o Dinbych;" a chyhoeddwyd atebiad iddo gan Edward Roberts, o'r Berthengron. Yr oedd John Griffiths yn Wesleyad selog ac yn bregethwr cynorthwyol, a phrawf ei lythyr at Mr. Elias ei fod yn deall Arminiaeth yn dda, ac yn hyddysg iawn yn yr Athrawiaethau Calfinaidd. Cyhoeddodd y Parch. William Evans hefyd yn y flwyddyn 1822 Ymddiffynwr y Gwir," &c. Yr oedd Mr. Evans yn ddyn pwyllog, yn gadarn yn yr Ysgrythyrau, ac yn ymresymwr cryf, a gwnaeth wasanaeth fawr trwy gyhoeddi y llyfr hwn. Dengys yn eglur beth yw y gwahaniaeth rhwng Arminiaeth a Chalfiniaeth. Ni ddigwyddodd i ni weled yr un atebiad iddo.
O hyn allan cyfyngwyd y ddadl i'r cylchgronau, megys "Yr Eurgrawn Wesleyaidd," "Goleuad Cymry," Seren Gomer," ac yn enwedig y "Dysgedydd Crefyddol." Mae ysgrifau "Sion y Wesley" yn y cyfnod o'r 1824 hyd 1833, yn deilwng iawn o ystyriaeth, ac ymddengys ei fod ef ei hun yn ddigon i gyfarfod â holl wrthwynebwyr Arminiaeth.
Yn y flwyddyn 1830 cyhoeddwyd y "Lladmerydd, yn cynwys sylwadau eglurhaol ar Dabl (os gwir a glywais) gan y diweddar Dr. Gill, yn dangos trefn yr achosion o Iachawdwriaeth Damnedigaeth yn ol gair Duw." Awdwr Y Lladmerydd" oedd y Parch. Edward Jones, Llandysilio. Bu cyhoeddiad y llyfr hwn yn achos o gyffro mawr yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd, a chyd âg ef dygwyd y "dadleuon athrawiaethol" i derfyniad. Nid atebodd neb y "Lladmerydd," oblegid gwelwyd yn eglur mai tawi oedd oreu. Ond fe gyhoeddodd Mr. Edward Jones, o Faesyplwm, gân athrodol iddo dan yr enw "Gwialen i gefn yr ynfyd." Credwn nad oes yn yr iaith Gymraeg yr un engraifft gyffelyb i hon o "Athrod tafod-ddrwg." Pe buasai yr hen fardd wedi cael benthyg holl ddoniau ellyllon y pydew du i ddifrio ac athrodi, mae yn amheus genym a allasai cynyrchu dim aflanach na ffieiddiach na'r gân hon. Ceisiodd Dr. Owen Thomas amddiffyn Edward Jones, o Faesyplwm, am gyfansoddi y fath gân i Edward Jones, Llandysilio, ond talodd Dr. W. Davies y pwyth hyd adref iddo yn yr "Eurgrawn' am 1871, tudalen 332. Mae'r gân hon yn rhy aflan genym i gymaint a difynu