llinello honi. Alan, aflan yw, a dylid cilio oddi wrthi fel oddiwrth y gwahanglwyf. Da genym i deulu y Bardd ei hystyried yn rhy aflan i'w chyhoeddi i ganlyn ei Weithiau, a pharchwn eu synwyr a'u chwaeth am hyny. Gwnaeth Dr. Owen Thomas gam dybryd a'r hen ddadleuwyr Wesleyaidd, yn ei adolygiad ar y dadleuon yn Nghofiant y Parch. John Jones, Talysarn. Ond beirniadwyd ef yn dêég a phwyllog mewn cyfres o ysgrifau gan y diweddar Dr. W. Davies, yn Yr Eurgrawn 1871, dan yr enw "Wettyn, Min-y-wendon." Ystyriwn yr ysgrifau hyn y rhai galluocaf o'u natur a gyhoeddwyd erioed yn yr iaith Gymraeg. Y fath feistrolaeth feirniadol ganfyddir yn mhob cyfresymiad, a'r fath sŵn dymchweliad byrddau a glywir yn mhob paragraph. Myned ein darllenwyr, os yn bosibl, hamdden a chyfleustra i ddarllen yr ysgrifau hyn o eiddo Dr. Davies drostynt eu hunain.
Fel y dywedwyd, rhoddodd cyhoeddiad y "Lladmerydd" derfyn ar y dadleuon-ni fu ar ol hyny ond rhyw fân ysgarmesoedd yma a thraw. O hyny hyd yn awr enillodd yr athrawiaeth Arminaidd dir lawer, ac nis gall y Wesleyaid amgen na llawenychu, am fod yr athrawiaethau a gredir ganddynt yn cael eu derbyn heddyw bron yn gyffredinol gan bob cangen efengylaidd o Eglwys yr Arglwydd Iesu Grist.
