Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD X.
Rhaniad y Dalaeth Gymreig yn ddwy, a'r llwyddiant a ddilynodd.

(O 1828 hyd 1841).

FEL y nodwyd yn y Bennod viii., trefnwyd y Cylchdeithiau Cymreig yn ddwy Dalaeth, yn y flwyddyn 1828. Credwn fod y trefniant ar y cyfan, yn un doeth. Ond ei ddiffyg oedd, na buasai yn cynwys rhyw ddarpar— iaeth i sicrhau undeb parhaol rhwng y ddwy Dalaeth â'u gilydd. Penodwyd y Parch. William Batten yn Gadeirydd y Dalaeth Ogleddol, a'r Parch. John Davies, yn Gadeirydd y Dalaeth Ddeheuol.

Cynhaliwyd Cyfarfod Talaethol y Gogledd yn Wyddgrug. Bu yn flwyddyn o lwyddiant yn y Dalaeth, fel y dengys y difyniad canlynol o'r adroddiad a geir o'i hanes yn "Yr Eurgrawn" am 1829, tudal. 210—

"Wrth iddynt chwilio i mewn i'r achosion perthynol i'r amrywiol Gylchdeithiau ag oedd mewn undeb â'r Dalaeth Ogleddol, cawsant bob sicrwydd fod yr achos goreu yn llwyddo yn eu llaw. Gyda golwg ar eu Capelydd, er bod rhai o honynt mewn cyflwr lled annymunol, eto, ar y cwbl, gellir dywedyd eu bod yn gwellhau. Mewn amrai fanau mae yr hen Gapelydd wedi eu tynu i lawr, a rhai newyddion lawer helaethach wedi eu hadeiladu yn eu lle, a'r rhai hyny yn cael eu llenwi yn dda—yn wir, y mae rhai o honynt yn gymaint rhy fach yn awr ag oeddynt cyn eu helaethu! Mewn manau eraill, y mae rhif yr aelodau braidd yn lluosocach na rhif y gynulleidfa flwyddyn yn ol! Onid yw hyn yn cynwys yr arwyddion mwyaf sicr o adfywiad a llwyddiant yr achos da?

Pan edrychwyd dros rif yr aelodau trwy y Dalaeth, a'i gydmaru â'r un y flwyddyn ddiweddaf, cafwyd bod eu cynydd, wedi cau pob adwy a bwlch i fyny (sef gwneuthur i fyny le y rhai a fuont feirw yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, y rhai a symudasant i Loegr a manau eraill, a'r rhai a droisant eu cefnau ar Dduw a'i achos) yn agos i bum' cant, heblaw ugeiniau lawer ar brawf. Y mae cynydd y Dalaeth Ogleddol y flwyddyn hon yn rhagori ar lwyddiant holl Gymru y flwyddyn o'r blaen."