Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

415 o gynydd yn rhif yr aelodau yn ystod y flwyddyn hon.

Ffurfiwyd un gylchdaith newydd, sef Ty Ddewi. Bu lleihad o un yn rhif y gweinidogion, trwy i'r ddau a nodwyd fyned yn uwchrifiaid, ac i un farw, sef John Millward. Collwyd tri o'r gwaith, ond ni alwyd allan ond dau o'r newydd. Yn y Gynhadledd hon penodwyd y Parch. Edward Anwyd yn gadeirydd Talaeth Gogledd Cymru yn lle y Parch. D. Evans, 1af. Y ddau a alwyd allan o'r newydd oeddynt, yn

1. JOHN R. CHAMBERS, o Lanbedr-Pont-Stephan. Perthynai llawer o hynodion i Mr. Chambers, y rhai a'i gwnelent yn gymeriad neillduol. Pregethai yn aml yn hynod o effeithiol. Bu farw yn Llandysil, Mehefin 10, 1864, yn 52 mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 26ain o flynyddoedd.

2. LEWIS WILLIAMS, o Lanegryn, Sir Feirionydd. Yr oedd yn bregethwr tra dylanwadol, a meddai ar lais ardderchog. Bu farw yn Newport, Awst 29, 1884, yn 75 mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 46ain o flynyddoedd.

Yn Nghynhadledd 1839, ffurfiwyd pedair o Gylchdeithiau Newyddion, sef y Wyddgrug, Llanasa, Abermaw, a Llanfair. Cymerwyd y ddwy flaenaf o hen gylchdaith eang Treffynnon. Abermaw oddi wrth Dolgellau, a Llanfair oddi wrth Llanfyllin. Ychwanegwyd dau at rif y gweinidogion, ac yr oedd gynydd yn rhif yr aelodau yn 773Cyfrifir fel yn dechreu teithio y flwyddyn hon ddau ŵr ieuanc, er mae yn 1840 yr aethant i'r gwaith, sef yn

1. BENJAMIN ROBERTS, o Beaumaris, Sir Fôn. Bu farw yn Caerlleon, 1866, yn 51 mlwydd oed, a'r 27ain o'i weinidogaeth.

2. ROBERT JONES, o Aberdyfi, Sir Feirionydd. Bu raid i Mr. Jones roi i fyny y weinidogaeth yn 1841 oherwydd gwendid ei iechyd. Ymsefydlodd yn Merthyr, a bu yn pregethu yn achlysurol am amser.

Bu y flwyddyn gyfundebol a derfynai yn Nghynadledd 1840 yn un o lwyddiant mawr ar yr achos Cymreig. Cododd rhif yr aelodau o 11,017 i 11,926, yr hyn a ddangosai gynydd o 909. Cafodd y Parch. Morgan Griffiths ganiatad i ddyfod yn uwchrif yn y Gynhadledd hon, a thrwy i ddau o'r newydd gael eu galw o'r newydd i'r gwaith bu cynydd o un yn rhif y gweinidogion. Y ddau a alwyd i'r gwaith oeddynt, yn

1. TIMOTHY JONES, o Landysil, Sir Aberteifi. Bu farw yn Abertawe, Chwefror 15fed, 1890, yn 78 mlwydd oed, ac yn y 50ain o'i weinidogaeth.