Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lawr tra nad oedd ond dyn ieuanc. Bu farw yn Tre'rddol, Mehefin 19, 1849, yn 34 mlwydd oed, a'r 8fed o'i weinidogaeth.

4. THOMAS MORRIS, o Aberffraw, Sir Fôn. Yr oedd Mr. Morris yn ddyn o ymddangosiad hardd a boneddigaidd. Meddai ar arddull neillduol o dderbyniol fel pregethwr. Gwnelai chwareu têg â'r gwirionedd trwy ei osod allan i'r fantais oreu, a chyd â llais treiddiol soniarus cariai adref ei apeliadau i galonau a chydwybodau ei wrandawyr. Bu farw yn Dinbych, Ebrill 30, 1888, yn ei 77 flwydd o'i oed, a'r 47 o'i weinidogaeth.

5. EVAN RICHARDS, o Bwllheli, Sir Caernarfon. Yr oedd yn bregethwr sylweddol a choeth. Bu yn Ysgrifenydd y Dalaeth Ddeheuol am dymhor, a llanwodd y swydd yn gymeradwy iawn. Bu farw yn Merthyr, Mai 13, 1873, yn ei 56 flwydd o'i oed, a'r 32 o'i weinidogaeth."

Yr ydym yn awr wedi cyrhaedd i derfyn tymor arall o lwyddiant mawr ar y gwaith yn Nghymru. Yn ystod y pum' mlynedd diweddaf, bu y cynydd yn rhif yr aelodau yn 3,515. Yn y blynyddoedd olaf hyn, y Parch E. Anwyl oedd Cadeirydd Talaeth Gogledd Cymru. Gŵr grymus oedd efe yn gadarn fel y graig, ac eto yn dyner fel y blodeuyn. Llenwid Cadair Dalaethol Deheudir Cymru gan y Parch. Hugh Hughes, yr hwn oedd yn dywysog ac yn ŵr mawr yn ein Hisrael. Yr oedd yn gadeirydd cymeradwy a llwyddianus iawn. Yr oedd genym yn y ddwy Dalaeth bregethwyr o dalentau anghyffredin, ac o ymroddiad di—ildio. Rhif y Cylchdeithiau yn y Dalaeth Ddeheuol yn 1841 oedd, 12, ac yn y Dalaeth Ogleddol, 14. Y cyfanrif yn chwech ar hugain.