Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XI.

Cyfnod o Ad-weithiad a Digalondid.
(O 1841 hyd 1849).

AR ol tymhor o lwyddiant mawr am ddeg mlynedd, ac eithrio y lleihad o 287 yn y blynyddoedd 1836 a 1837, dechreuodd y llanw gilio drachefn, a pharhaodd i dreio am wyth mlynedd yn olynol. Mae yn anhawdd cyfrif am y cyfnodau hyn o lwyddiant ac aflwyddiant yn hanes yr eglwys, ac eto safant fel ffeithiau ger ein bron. Cynhaliwyd Cynhadledd 1842 yn Llundain, o dan lywyddiaeth Dr. Hannah. Ffurfiwyd un gylchdaith newydd, sef Amlwch, a gwnaed hyny trwy ranu Cylchdaith Beaumaris yn ddwy. Cyn hyn yr oedd holl Ynys Môn yn un gylchdaith. Ni bu yr un gweinidog farw yn ystod y flwyddyn hon; ond ymneillduodd y Parch. William Hughes i restr yr uwchrifiad. Bu cynydd o un yn rhif y gweinidogion trwy i ddau o'r newydd gael eu galw i'r weinidogaeth, sef yn

1. RICHARD HUGHES, o'r Braich, Tregarth, Sir Gaernarfon. Yr oedd yn ŵr ieuanc o dalentau disglaer iawn, ac yn bregethwr galluog. Collodd ci iechyd, a gorfu iddo adael y gwaith yn 1845. Parhaodd i nychu hyd Mehefin, 1847; yna canodd yn iach â "byd y cystudd mawr," a hedodd "ar aden gref rhyw angel mwyn i'r hyfryd wlad hono lle na chlywir ganddo byth yr hen gwyn claf ydwyf."" Bu farw yn y Braich, Tregarth, Mehefin 20, 1847, yn 27ain mlwydd oed, a'r bumed o'i weinidogaeth.

2. THOMAS HUGHES, 2il, o Langynog, Sir Drefaldwyn. Acth drosodd i'r gwaith Seisnig yn 1846. Yr oedd yn bregethwr uwchraddol, ac yn awdwr galluog a chynyrchiol. Bu farw yn Morton, Ionawr 31, 1884, yn 69 mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 42 o flynyddoedd.

Bu y flwyddyn 1843 yn un neillduol ar gyfrif y nifer o weinidogion aethant yn uwchrifiaid, ac felly o ganlyniad i ryw fesur ar gyfrif y nifer a alwyd allan i'r gwaith. Y rhai