Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a aethant yn uwchrifiaid oeddynt y Parchn. William Batten, David Evans, 2il, Hugh Hughes a Thomas Thomas. Llanwodd Mr. Batten y swydd o Gadeirydd Talaeth Gogledd Cymru am bum' mlynedd, a Mr. Hugh Hughes yr un swydd yn y Dalaeth Ddeheuol am bedair-blynedd-ar-ddeg. Yn Nghynadledd y flwyddyn hon penodwyd y Parch. John Davies yn Gadeirydd "Yr Ail Dalaeth Ddeheuol," a galwyd allan bump o wyr ieuainc hynod o addawol i waith y weinidogaeth. Yn

1. SAMUEL DAVIES, o Dinbych. Ni bu yn ein gweinidogaeth erioed ŵr mwy teilwng na Mr. S. Davies. Ymgysegrodd yn llwyr i'r gwaith, ac aeth trwy holl gylchoedd swyddogaethau y Dalaeth, a gosododd urddas arnynt oll. Cododd i sylw ar unwaith fel pregethwr. Ei nodweddion amlycaf fel pregethwr oeddynt: difrifoldeb, maethlonrwydd, ac urddas. Bu yn Ysgrifenydd Cyllidol y Dalaeth Ogleddol am wyth mlynedd, sef o 1858 hyd 1865. Yn Nghynadledd 1865 penodwyd ef yn Gadeirydd y Dalaeth Ogleddol, a bu yn y swydd am un-mlynedd-ar-hugain, y tymor hwyaf i unrhyw un fod yn gadeirydd yn y gwaith Cymreig. Bu yn Olygydd "Yr Eurgrawn" ac yn Oruchwyliwr y llyfrfa am ddau dymor, a llwyddai y llyfrfa dan ei ofal manwl a'i ymroddiad di-ildio. Etholwyd ef yn un o'r cant cyfreithiol yn y flwyddyn 1875. Cafodd ei ethol hefyd yn un o Lywyddion Prifysgol Gogledd Cymru ar ei sefydliad yn Mangor, a bu o wasanaeth fawr yn y cylch hwnw. Yr oedd yn llenor coeth, ac yn gofiantydd dihafal. Bu farw yn Amlwch, Mehefin 7, 1891, yn 73 mlwydd oed, ac yn yr 48ain o'i weinidogaeth.

2. WILLIAM DAVIES, D.D., o Aberystwyth, Sir Aberteifi. Efallai, a chymeryd pob peth i ystyriaeth, mai Dr. Davies oedd y dyn cyflawnaf a fu erioed yn ngwaith ein gweinidogaeth yn Nghymru. Yr oedd yn bregethwr coeth, eglur, swynol, a chaniadlais ryfeddol. Ni welodd Cymru erioed lenor mwy chwaethus. Meddai y fath lywodraeth dros iaith fel ag yr oedd ei holl gyfoeth a'i hadnoddau at ei wasanaeth yn ol ei ewyllys. Ni bu ei hafal fel dadleuydd fel y cafodd pob un fu yn mesur donia ag ef yn y maes hwn deimlo. Yr oedd yn feirniad yn ol y safonau uchaf fel bardd, cerddor, a llenor. Safodd ar y tŵr i amddiffyn ei enwad mewn amserau enbyd, a llwyddai yn effeithiol i ddistewi magnelau yr ymosodwyr a'u gwisgo â chywilydd a gwarth. Saif ei Euriadur Ysgrythyrol mhlith trysorau llenyddol penaf y genedl ar gyfrif yr ymdriniaeth uwchraddol a geir ynddo ar athrawiaethau mawrion crefydd a phurdeb clasurol yr iaith. Ni wyddom am yr un llyfr Cymreig a'i iaith yn fwy pur a chlasurol na hwn. Dylai fod yn destyn-lyfr i bob efrydydd Cymreig pe ar gyfrif dim ond clasurolder ei iaith. Llanwodd Dr. Davies y swydd o Ysgrifenydd y Dalaeth am dymor, a bu yn Olygydd "Yr Eurgrawn" a'r "Winllan," ac yn Oruchwylydd y llyfrfa. Bu farw yn Bangor, Awst 13, 1875, yn 55 mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 32 o flynyddoedd.

3. JOHN JONES, 3ydd, o Llantrisant, Sir Forganwg. Fel pregethwr yr oedd yn drefnus, clir, ysgrythyrol, ac addysgiadol, ac yn gymaint a'i fod yn meddu ar ystorfa lawn ac amrywiol o ddefnyddiau, eglurai y gwirioneddau a bregethai gyd â chymhariaethau tarawgar, nes eu gwneyd yn