Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddyddorol ac eglur i'r gwrandawyr. Yr oedd yn llenor, ac yn awdwr amrai lyfrau hanesiol. Bu yn Olygydd Yr Eurgrawn" yn y blynyddoedd 1849-1851. Bu farw yn Nghaerdydd, Mawrth 13, 1869, yn yr 51ain o'i oed, a'r 2бain o'i weinidogaeth.

4. WILLIAM JONES, o Mochdre, Sir Ddinbych. Erys Mr. Jones hyd y dydd heddyw. Efe yw y gweinidog hynaf sydd yn y gwaith Cymreig, a pharha i deimlo cymaint o ddyddordeb ag erioed yn yr achos.

5. EBENEZER MORGAN, o Felinygraig, Cwmbrwyno, Sir Aberteifi. Yr oedd ef yn ddyn siriol a gweithgar, ac yn bregethwr dyddorol a phoblogaidd. Yr oedd hefyd yn awdwr amrai lyfrau da a buddiol. Bu farw yn Manchester, Mawrth 12, 1871, yn 53ain mlwydd oed, ar ol bod yn y weinidogaeth am 28ain o flynyddoedd.

Ychwanegwyd un gylchdaith newydd, sef Bangor, trwy ranu cylchdaith eang Caernarfon yn ddwy. Nid oes dim neillduol iawn i'w gofnodi am y flwyddyn 1844.

Aeth y Parch. William Evans yn uwchrif, ac ymsefydlodd yn Machynlleth; ac ail-ymaflodd y Parch. David Evans, 2il yn ei waith. Galwyd un allan o'r newydd, sef

JOHN HERBERT, o'r Borth, Sir Aberteifi. Bu farw yn Tredegar, Tachwedd 21, 1884, yn 68 mlwydd oed, ac yn ei 40fed flwydd o'i weinidogaeth.

Yn y flwyddyn 1845 aeth y Parch. John Jones, 2il yn uwchrif, a gorfu i Mr. Richard Hughes roddi i fyny deithio, oherwydd i'w nerth gael ei ddarostwng ar y ffordd gan gystudd blin a diymollwng. Galwyd allan un o'r newydd i'r gwaith yn ystod y flwyddyn hon mewn canlyniad (fel y casglwn) i farwolaeth sydyn y Parch. John Davies, yn Merthyr, Rhagfyr 21, 1845. Y brawd ieuanc a alwyd allan oedd

JOSEPH AUGUSTUS JONES, o Dregaron, Sir Aberteifi. Erys ef yn ein plith hyd yr awr hon yn henafgwr cryf ac urddasol.

Bu amryw gyfnewidiadau yn mhlith y gweinidogion y flwyddyn gyfundebol a derfynai'n Nghynadledd 1846. Fel y nodwyd, bu farw y Parch. John Davies—yr hwn oedd ar y pryd yn Gadeirydd y Dalaeth—Rhagfyr 21, 1845, a bu y Parch. Thomas Hughes, 1af hefyd farw, Ebrill 13, 1846. Daeth dau yn uwchrifiaid, sef y Parchn. Griffith Hughes a Samuel Davies, 1af, ac aeth y Parch. T. Hughes, 2il drosodd i'r gwaith Seisnig. Felly collwyd o'r gwaith bump o weinidogion, a galwyd allan bump o'r newydd i lanw y bylchau, sef Joseph Augustus Jones a nodwyd yn barod, ac yna, yn