PENNOD XII.
Amseroedd enbyd—terfysgoedd ac ymrwygiadau.
(O 1849 HYD 1854).
YN Nghynadledd 1849, a gynhaliwyd yn Manchester diarddelwyd y Parchn. Everett, Dunn, a Griffiths. Ymddygasant am amser yn herfeiddiol ac anheyrngarol, ac erbyn y Gynhadledd yr oeddynt wedi ymbarotoi i herio awdurdod ddisgyblaethol y Cyfundeb, a bygythient os diarddelid hwy y rhwygid y Cyfundeb drwyddo draw. Fodd bynag eu diarddel gawsant, ac ni pherthyn i ni yn awr fyned i mewn i ddoethineb ymddygiad y Gynhadledd, ond cyfeirio yn unig at ffeithiau. Wedi eu diarddeliad, teithiasant y wlad o ben-bwy-gilydd i gynhyrfu a rhwygo yr Eglwysi. Cyrhaeddasant eu hamcan i fesur pell, oblegid yn ystod y flwyddyn 1850, a'r pedair dilynol cymerodd leihad le yn rhif yr aelodau yn ein Cyfundeb o yn agos i gan' mil (100,000). O blith y nifer fawr hon gwnaethant ymdrech i sefydlu Enwad Newydd dau yr enw "Diwygwyr Wesleyaidd" (Wesleyan Reformers), ac yn y flwyddyn 1857, ffurfiwyd undeb rhyngddynt â'r "Gymdeithasfa Wesleyaidd" (Wesleyan Association), a galwyd yr Enwad a gyfododd o'r undeb hwn yn "Unol Eglwysi Rhydd Methodistaidd " (United Methodist Free Churches). Ond rhyfedd mor ddigynydd fuont. Nid oedd rhif aelodau y Cyfundeb hwn yn 1898 ddim ond 91,428. Gofynwn gyd a'r diweddar Barch. Samuel Davies—"Beth a ddaeth o'r degau o filoedd o eneidiau a rwygwyd ymaith oddiwrth y Cyfundeb Wesleyaidd, dros ben y rhifedi yna, drwy gynhyrfiadau drygionus blaenoriaid y cangenau a enwyd? Ac i ba le y gellir edrych am ffrwythau llafur y swyddogion lluosog a hudwyd ymaith oddiwrth eu gwaith? O pa le, pa le hefyd?"