ychydig o rai a berthynent i enwadau eraill. Nis gallwn wneyd yn well na rhoddi yma adroddiad y Parch. Lewis Meredith (Lewys Glyn Dyfi), o hanes y ddadl. Yr oedd ef a'r Parch. John Jones (Vulcan), yn bresenol.
Fel hyn y dywed:
"Un peth sydd amlwg ac eglur ar fy nghôf yw hyn: Yr annghyfartalwch chwerthinus rhwng y ddau ddadleuwr. Yn y rhan flaenaf o'r cwrdd, llwyddai Thomas i lenwi ei chwarter awr yn lled weddol; ond yn mhell cyn y diwedd, gorchest fawr oedd cael rhyw beth i'w ddywedyd. Ond am Aubrey,—dyn byw; yr oedd llinell derfyn y pymtheg munud fel argau ar draws y rhyferthwy iddo ef; a gwaith anhawdd oedd ymatreg hyd nes y deuai ei wrthwynebydd i'r pen. Unwaith, yr wyf yn cofio, galwyd amser i fyny' arno; edrychodd yn synedig ar ei oriawr, a dywedodd, y mae genyf funud eto!' a gafaelodd yn y funud weddilledig fel pe buasai yn haner awr, a gorlwythwyd hi a baich cyfoethog o hyawdledd aruchel ac anwrthwynebol. Yr adgôf sydd genyf am Thomas druan ar ol y cwrdd yw, y rhaid ei fod yn teimlo fel dyn wedi cael mwy na'i haner foddi; ac y cwynai yn grintachlyd wrtho ei hun, tra yn edrych tuag at Aubrey, a phrin yn gallu anadlu, Dy holl—donau—a'th lifeiriant—a—acthant—droswyf. 'Afon a dywalltwyd ar ei sylfaeni,' ebe un o'r Ysgrifenwyr Ysbrydoledig. Felly yn ddiau y bu hi gyda'r ddau Ddiwygiwr hyn y tro hwn. Os bwriadent osod sylfaeni eu hadeiladaeth yn mhlith bechgyn y chwareli, anffawd anfeddyginiaethol oedd iddynt gytuno i gyfarfod Mr. Aubrey. Yn nerth gorthrechol ei resymeg a'i hyawdledd, i lawr ar eu gwarthaf y daeth ei ryferthwy; yn
Uchel gadr raiadr dŵr ewyn—hydrwyllt
Edrych arno'n disgyn!
Crochwaedd ei redlif crychwyn
Synu pensyfrdanu dyr.'
{{c|"Afon a dywalltwyd ar ei sylfaeni, a golchwyd y cwbl ymaith."
O Dregarth aeth Mr. Thomas a'i gyfeillion drosodd i Ynys Môn, ond ni fynai Wesleyaid yr Ynys henafol unrhyw gyfathrach â hwynt, oblegid nid oeddynt eto wedi anghofio ystrywiau y "Wesla Bach," na'r blinderau a gawsant oddiwrthynt. Ymwelsant hefyd âg amryw drefydd eraill y ngwahanol Siroedd y Gogledd, ond siomedig iawn y trodd eu cenhadaeth allan yn Gwynedd a Powys. Yn ystod y cynhwrf bu cynydd sylweddol yn rhif yr aelodau yn y Dalaeth Ogleddol.
Cafodd y "Diwygwyr " fwy o ddylanwad niweidiol o lawer yn y Deheudir nag yn y Gogledd. Torodd y terfysg allan yn Penycae, Cylchdaith Brynmawr, pan oedd y Parch. W. Rowlands yn weinidog arni. Yn nghofiant y