gyd â hwyl ac arddeliad. Yn Llandeilo Cynhaliwyd Cyfarfod Talaethol y Deheu, a chafwyd yno gyfarfod rhagorol. Bu hon yn flwyddyn o gynydd neillduol ar yr achos yn y ddwy Dalaeth. Yn ol y cyfrifon a ddarllenwyd yn y Cyfarfodydd Talaethol yr oedd y cynydd yn y De yn 698, ac yn y Gogledd yn 611, ond nid yw hwn yn hollol gyson â'r cyfrif a geir yn Nghofnodion y Gynadledd. Fodd bynag, yr oedd dros ddeuddeg cant o gynydd yn rhif yr aelodau yn y ddwy Dalaeth.
Cynhaliwyd Cynhadledd 1850 yn Llundain. Nid oedd effaith diarddeliad Everett, Dunn, a Griffith wedi dyfod i ddyweyd ond ychydig ar y Cyfundeb eto, oblegid bu cynydd o dros fil yn rhif yr aelodau. Galwyd allan i waith y weinidogaeth y flwyddyn hon y personau canlynol:
1. DAVID EVANS, o Dredegar. Yr oedd yn weinidog galluog a chymeradwy. Bu yn Gadeirydd Talaeth Deheudir Cymru am chwe' blynedd, sef o 1874 hyd 1880. Yr oedd yn hynod o gymeradwy yn mhlith ci frodyr. Bu farw yn Abertawe, Medi 29ain, 1884, yn ei 59ain mlwydd o'i oed, ac yn ei 35ain o'i weinidogaeth.
2. JOHN HUGHES (B), o Beaumaris, Sir Fôn. Dyn caredig iawn a chyfaill dyddan dros ben. Bu farw yn Nhgaernarfon Tach. 21ain, 1886, yn ei 65ain mlwydd o'i oedran a'r 37ain o'i weinidogaeth.
3. CHARLES NUTTAL, o Dyserth,Sir Fflint. Bu farw yn Towyn, Mai 3ydd, 1887, yn 65ain mlwydd o'i oedran, a'r 37ain o'i weinidogaeth.
4. HENRY PARRY, o Abercegir, Sir Drefaldwyn. Erys ef hyd yn awr, a phregetha yn fynych ar Gylchdaith Abertawe. Bu ef am dymor yn Ysgrifenydd y Dalaeth Ddeheuol.
5 GRIFFITH ROBERTS, o Pwllheli, Sir Gaernarfon. Gadawodd y gwaith tra nad oedd eto ond ar ei brawf.
Nid oes genym ond ychydig i'w gofnodi am y flwyddyn 1851, mor bell ag y mae y gwaith Cymreig yn y cwestiwn. Bu yn flwyddyn ddifriol iawn yn hanes y Cyfundeb, oblegid rhwygwyd ef yn erchyll gan y terfysgwyr. Yr oedd y lleihad yn rhif yr aelodau y flwyddyn hon yn 56,068. Ni alwyd ond un i waith y weinidogaeth yn Nghymru y flwyddyn hon. Yr un hwnw oedd :
ROBERT JONES (C), o Lanfechan, Sir Drefaldwyn.
Yr oedd yn bregethwr nerthol a phoblogaidd a bu yn foddion i ddychwelyd llawer o eneidiau at Grist. Bu farw yn Manchester, Maw. 15fed, 1883, yn ei 56ain flwydd o'i oedran a'r 32ain o'i weinidogaeth.
Yn Sheffield, cynhaliwyd Cynhadledd, 1852. Ni alwyd neb allan y flwyddyn hon, ac mor bell ag y gallwn gasglu