Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oddiwrth yr adroddiadau a geir yn yr Eurgrawn" o hanes y Cyfarfodydd Talaethol ni chynygiwyd neb fel ymgeiswyr am y weinidogaeth, gan fod cryn nifer o'r rhai a gymeradwywyd mewn Cyfarfodydd o'r blaen heb gael eu galw allan. Ni alwyd neb allan o'r newydd i waith y weinidogaeth, yn Nghynadledd 1853. Ond yn mis Medi canlynol bu farw y Parch. Daniel Jones, yn Llanrhaiadryn—Mochnant, ac i lanw yr adwy, galwyd allan

OWEN EVANS, o Langefni, Sir Fôn. Yr oedd ef yn ddyn caredig ac hynod o ymroddol i'w waith, ac yr oedd llwyddiant yr achos yn agos at ei galon bob amser. Bu farw yn Llanrwst, Hydref 1ofed, 1864, yn ei 39ain o'i oedran, a'r 11eg o'i weinidogaeth.

Cynhaliwyd Cyfarfod Talaethol y Deheu am 1854, yn Nantyglo. Prif digwyddiad y Cyfarfod hwnw oedd yr anerchiad a draddodwyd gan y Parch. Isaac Jenkins, i'r Parchn. C. Nuttal, D. Evans a H. Parry, ar derfyn eu tymor prawf wedi iddynt gael eu cymeradwyo gan y Cyfarfod i gael eu hordeinio yn y Gynhadledd nesaf. Y testyn oedd Luc xii. 34, a sylwyd ar gymeriad, gwaith a gwobr y gweision ffyddlon.

Yn Nghaernarfon y cynhaliwyd Cyfarfod Talaethol y Gogledd. Yr oedd hwn yn gyfarfod neillduol iawn Penodwyd pwyllgor ganddo i ystyried pa lyfrau i recommendio i'w darllen i'r pregethwyr ar brawf y flwyddyn gyntaf, yr ail, y drydedd, a'r bedwaredd. Yn y cyfarfod hwn hefyd y cafodd y Parch. T. Aubrey y fath hwyl a dylanwad i draddodi ei ddarlith ar "Drefnyddiaeth Wesleyaidd" nes synu pawb. Ond efallai mai prif ddigwyddiad y cyfarfod oedd ymneillduad y Parch. Edward Anwyl o'r gwaith rheolaidd i fod yn uwchrif, ar ol llafurio yn galed am 46ain o flynyddoedd. Fel hyn yr rhydd y Parch. Samuel Davies yr hanes Fel ei gyfoed y Parch. David Williams dan amgylchiadau cyffelyb, methodd a dywedyd ond ychydig eiriau, torodd i wylo, ac eisteddodd i lawr, tra yr oedd llygaid yr holl frawdoliaeth o'i amgylch yn ffynnonau of ddagrau. Pa ryfedd wrth weled hen gadfridog na bu arno ofn na dyn na diafol pan yn ymladd brwydrau y groes wrth ddiosg ei arfogaeth oddiamdano am nad allai ymladd yn hwy oherwydd ei wendid, yn tori i lawr ac yn wylo? Dilynwyd ef gan yr un cais gan y Parch. R. Bonner, ond