Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/142

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oedd ef yn fwy hunan-feddianol. Nid allan o le fyddai crybwyll yn y fan yma fod deall lled gyffredin yn mhlith y brodyr fod Mr. Anwyi yn bwriadu ymneillduo y flwyddyn hono, ac oddiar ystyriaeth iddo fod am 16eg o flynyddoedd yn gwasanaethu y Dalaeth fel cadeirydd, gofalus, &c., penderfynwyd cyflwyno iddo ei ddarlun yn anrheg, yn nghyd a phwrs hardd a phwysig o aur." Cymerwyd rhan yn y cyfarfod a gynhaliwyd i'r perwyl gan y Parchn. J. L. Richards, John Bartley, M. Thomas, a Thomas Aubrey. Siaradai yr oll yn uchel iawn am ragoriaethau Mr. Anwyl. Dewiswyd y Parch. T. Aubrey i fod yn gynrychiolydd i'r Gynhadledd, yr hyn oedd gystal a'i enwi i fod yn gadeirydd yn lle Mr. Anwyl.

Yn y Gynhadledd penodwyd y Parch. T. Aubrey yn Gadeirydd y Dalaeth Ogleddol, a'r Parch. John L. Richards yn Ysgrifenydd. Y flwyddyn hon galwyd allan bedwar o'r newydd i'r weinidogaeth, sef yn

1. JOHN JONES (c), o Bethesda, Sir Caernarfon. Yr oedd ef yn un o'r dynion mwyaf fu erioed yn y weinidogaeth Wesleyaidd. Safai yn uchel fel athronydd, bardd, cerddor, duwinydd, ac yn hollol wrtho ei hun fel ymresymwr. Bu cyfnod yn ei hanes na feddai neb gymaint o ddylanwad dros bregethwyr ieuainc yr enwad yn Nghymru ag efe. Ysgrifenodd lawer, ac yn alluog iawn. Nis gwyddom am neb a dalodd fwy o sylw i egwyddorion llywodraeth foesol, ac a ddysgodd athrawiaeth yr lawn cystal âg ef. Yr oedd hefyd yn bregethwr gafaelgar, yn fugail gofalus, ac yn un o'r dynion mwyaf anymhongar a gerddodd y ddaear erioed. Yr oedd yn foneddwr trwyadl ac yn gristion gwirioneddol. Pallodd ei gôf i fesur helaeth tua therfyn ei ocs, yr hyn a brofodd yn gryn anfantais iddo. Bu farw yn Mangor, Rhagfyr 17, 1889, yn ei 64ain mlwydd o'i oedran, a'r 35ain o'i weinidogaeth.

2. WILLIAM MORGAN, o Melinygraig, Sir Aberteifi. Mae efe eto yn fyw, ac yn teimlo cymaint o ddyddordeb ag erioed yn llwyddiant y gwaith. Parhaed ei brydnawn yn hir ac yn glir.

3. RICHARD WILLIAMS, o Llwyngwril, Sir Feirionydd. Yr oedd ef yn bregethwr sylweddol, a gweithiodd yn neillduol o galed am dymor lled faith. Bu o wasanaeth fawr i'r achos yn ei amgylchiadau allanol, ac yn yr ystyr yma gadawodd pob Cylchdaith yn well nag y cafodd hi. Bu farw yn Rhyl, Awst 29ain, 1895, yn ei 68ain oed, a'r 41ain o'i weinidogaeth.

4. ROWLAND WHITTINGTON, o Penegoes, Sir Drefaldwyn. Ar ol llafurio yn dra chymeradwy am rai blynyddoedd gadawodd y gwaith. Yn mhen amser ymfudodd i'r America, ac yno y bu farw.

Gyda hyn, dygir ni i derfyn cyfnod arall yn hanes Wesleyaeth yn Nghymru, a chyfnod lled brofedigaethus i'r