achos, yn enwedig yn y Deheudir. Dodwn yma gyfrif yr aelodau am y pum' mlynedd, sef o 1850 hyd 1855.
| . | Deheudir | Gogledd | ||
| 1850 | 4,869 | . | 7376 | . |
| 1851 | 4,596 | 273 lleihad | 7607 | 231 cynydd |
| 1852 | 4,253 | 343 lleihad | 7443 | 164 lleihad |
| 1853 | 4,094 | 159 lleihad | 7473 | 30 cynydd |
| 1854 | 3,978 | 116 lleihad | 7854 | 381 cynydd |
Dengys hyn 891 o leihad yn y Dalaeth Ddeheuol, ond 478 o gynydd yn y Dalaeth Ogleddol. Yn 1851 ffurfiwyd un gylchdaith newydd, ond gan i Gylchdaith Corwen gael ei huno â Chylchdaith Rhuthyn a Dinbych yn ystod y cyfnod hwn, safai eu rhif yr un ar ei therfyn ag ydoedd ar ei dechreu.
Adeiladodd y Reformers gapelau yn Merthyr, Tredegar, Aberdare, a Mill Street, ond ychydig iawn o lwyddiant fu arnynt. Buont yn llwyddianus i dynu i lawr, ond pan aethant i adeiladu cawsant eu siomi. Yn lle ymuno â'r Diwygwyr, aeth y rhan liosocaf o'r rhai a hudwyd ganddynt oddiwrthym at enwadau eraill i wneyd eu cartref, ond yn y diwedd dychwelodd amrai o honynt yn ol i'w hen gorlan.
