Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XIII.

Ad-drefnu a chyfaddasu Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig i
gyfarfod ag angenhion yr amserau yn fwy effeithiol.
O 1855 hyd 1865.

CYNHALIWYD Cyfarfod Talaethol Gogledd Cymru am 1855, yn Treffynnon, ac un y Dalaeth Ddeheuol yn Aberteifi, a chynhaliwyd Cynhadledd y flwyddyn. hon yn Leeds. Ni alwyd allan y flwyddyn hon ond un, sef

JOHN ROBERTS, o Penegoes, Sir Drefaldwyn. Bu farw yn Machynlleth, Medi 1ofed, 1875, yn 47ain mlwydd oed, ac yn yr 20fed o'i weinidogaeth.

Wedi i'r Parch. T. Aubrey gael ei benodi yn Gadeirydd Talaeth Gogledd Cymru, ymgysegrodd i wasanaeth y swyddogaeth â'i holl egni. Gwelodd fod sefyllfa ysbrydol yr achos yn mhell islaw yr hyn ddylasai fod, a theimlai fod y Trysorfeydd yn mhell o fod yn gyfartal âg anghenion yr amgylchiadau. Yr oedd tai y gweinidogion mewn cyflwr gwael, a bron yr oll o'r capelau yn adfeiliedig, a llawer o dan feichiau trymion o ddyledion, Cafodd y materion hyn sylw cyn i Mr. Aubrey dd'od i'r gadair. Penodwyd Pwyllgor yn Nghyfarfod Talaethol 1853 i gymeryd i ystyriaeth gyflwr isel cyllid y Dalaeth. Cyfarfyddodd y Pwyllgor hwnw yn Abergele, a theimlai fod eisiau diwygiad gyd â golwg ar y Genhadaeth Gartrefol, ac argymellwyd fod cynyg yn cael ei wneyd i'r Gynhadledd i roddi i fyny y rhad-roddion a dderbyniai y Dalaeth o'i Thrysorfa yn mhen cyfnod penodol; ac apeliad yn cael ei wneyd at ein cyfeillion trwy y Dalaeth i godi swllt yn y flwyddyn ar gyfer pob aelod fod ymdrech yn cael ei wneyd y flwyddyn hono i'w codi, a bod Mr. Aubrey i ymweled a'r Parchn. Dr. Bunting