Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/145

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a John Scott i egluro y cynllun, ac i geisio eu cydsyniad a'u cydweithrediad o'i blaid. Ymwelodd Mr. Aubrey a'r boneddigion uchod, a chafodd dderbyniad siriol ganddynt, a chydnabyddent fod yn y cynllun elfenau gwerth eu hystyriaeth ffafriol, ond ni wnaethant unrhyw addewid iddo.

Cyfarfu ail Bwyllgor yn Abergele, Medi 25 a 26, 1855, i gymeryd i ystyriaeth ffurfiad Trysorfa y Genhadaeth Gartrefol a Thrysorfa Fenthycol Capeli y Dalaeth. Argymellwyd fod y ddwy Drysorfa i gael eu sefydlu, a bod y Parch. T. Aubrey i ymweled â holl Gylchdeithiau y Dalaeth i egluro y cynllun o godi Trysorfa Fenthycol. Cynwysai y cynllun fod mil o bunnau i gael eu codi yn y Dalaeth, a chais am echwyn o ddwy fil o'r Drysorfa Seisnig yn cael ei wneyd i ffurfio Trysorfa o dair mil at wasanaeth y Dalaeth. Yn Hydref y flwyddyn hono cyfarfu Cyfarfod Cyllidol y Dalaeth yn Llanrhaiadr, ac yno y penderfynwyd sefydlu Trysorfa y Genhadaeth Gartrefol yn ei ffurf bresenol,

Yn y cyfarfod hwn hefyd yr eglurodd Mr. Aubrey ei gynllun er gwaredu y Capelau o'u dyledion trymion, sef trwy sefydlu Trysorfa Fenthycol. Cymeradwywyd y cynllun yn galonog, a gweithiwyd ef allan yn llwyddianus gan y Dalaeth. Cymeradwywyd y cynllun gan Bwyllgor Capelau y Cyfundeb, a chymeradwywyd ef yn derfynol yn Nghyfarfod Talaethol Bangor, 1856. Yr oedd y cynllun yn cynwys fod y £2000 a fenthycid o Drysorfa y Cyfundeb i gael eu dychwelyd yn rhan—daliadau blynyddol o £200 yr un. Ac i alluogi y Dalaeth i wneyd hyn sefydlwyd casgliad yr Ysgol Sul, sef dimeu yn y mis ar gyfer pob aelod, ac ymgymerodd Ysgolion Sabbothol y Dalaeth â hyn yn ewyllysgar a chalonog.

Cynhaliwyd Cynhadledd 1856 yn Bristol, ac упо у cadarnhawyd sefydliad y Trysorfeydd a nodwyd. Gan y Gynhadledd hono galwyd allan ddau o'r newydd i waith y weinidogaeth, sef yn

1. WILLIAM HUGH EVANS, o Ysceifiog, Sir Fflint. Daeth yn uwchrif yn 1895. Mae ef yn awr yn trigo yn Rhyl, ac mor fyw ac erioed i amgylchiadau ei enwad a'i wlad.

2. OWEN WILLIAMS, o Llangoed, Sir Fôn. Aeth yn uwchrif yn 1890, a phreswylia yn awr yn Nghaernarfon, a hyny er mantais i achos addysg yn y dref, ac yn neillduol i achos crefydd a rhinwedd.