Yn Liverpool y cynhaliwyd Cynhadledd 1857, ac yn y Gynhadledd hon galwyd allan bedwar o'r newydd i waith y weinidogaeth.
1. OWEN LLOYD DAVIES, o Lanrwst, Sir Ddinbych. Aeth yn uwchrif yn y flwyddyn 1893. Preswylia yn Liverpool, a pharha i wasanaethu yr achos yn ol ei allu. Pregetha mor alluog ag erioed.
2. GRIFFITH JONES, o Aberdaron, Sir Gaernarfon. Yr oedd yn feddyliwr galluog, yn bregethwr coeth, ac yn Armin mawr iawn. Bu farw yn Porthmadog, Hydref 7fed, 1897, yn ei 67ain flwydd o'i oedran, a'r 40fed o'i weinidogaeth.
3. THOMAS MORGAN, o Tŷ Ddewi, Sir Benfro. Bu o wasanaeth fawr i'r Dalaeth Ddeheuol. Cymerodd yr arweiniad yn erbyn uniad (amalgamation) yr Achosion Cymreig a Seisnig yn y Deheudir. Bu yn Ysgrifenydd y Dalaeth am dymhor, ac yn Gadeirydd am saith mlynedd. Aeth yn uwchrif yn 1895, a phreswylia yn awr yn Brynmawr.
4. JOHN PIERCE, o Gaernarfon. Aeth yn uwchrif yn y flwyddyn 1898, ar ol teithio am 41ain o flynyddoedd. Preswylia yn awr yn Llangollen, a pharha i wasanaethu yr achos yn ffyddlon.
Cynhaliwyd Cynhadledd 1858 yn Hull. Ni alwyd neb allan o'r newydd yn y Gynhadledd hon. Yr oedd Mr. Aubrey wrthi a'i holl egni yn y blynyddoedd hyn, nid yn unig gyd âg amgylchiadau allanol yr achos, ond rhoddai ef ac eraill ystyriaeth ddwys i sefyllfa ysbrydol yr achos yn yr holl gylchdeithiau. Cynhelid cyfarfodydd cylchdeithiol i edrych i mewn i sefyllfa ysbrydol yr eglwysi, a gwahoddid y blaenoriaid a'r swyddogion i roddi eu presenoldeb ynddynt. Talai Mr. Aubrey ymweliad â'r cyfarfodydd hyn, ac yr oedd ei anerchiadau amserol yn gwneyd argraff dda arnynt. Yn y cyfnod hwn hefyd y trefnwyd i gynal Cyfarfodydd Adfywiol yn y gwahanol gylchdeithiau, y rhai fuont yn foddion effeithiol i adeiladu. y saint a dychwelyd llawer o eneidiau at Grist.
Wedi gosod y ddwy Drysorfa a nodwyd mewn sefyllfa weithiadwy, y gwaith mawr i'w wneyd bellach oedd cario allan eu darpariadau yn y cylchdeithiau, a thrwy yr oll i fod yn fantais ysbrydol i'r achos. Yn yr "Eurgrawn 1858, ymddangosodd cyfres o ysgrifau gan y Parchn. Thomas Aubrey a Dr. Jones, ar "Adfywiad Crefyddol," a diameu iddynt symbylu ein pobl i gydymffurfiad âg amodau adfywiad, ac i'w parotoi i dderbyn bedydd yr Yspryd Glân.
Yn nechreu y flwyddyn 1858 dechreuodd Diwygiad Mawr Crefyddol 1859 a 1860 dori allan, a hyny yn