Llanfairfechan, Sir Caernarfon. Nos Lun, Chwefror 15, 1858, a'r nosweithiau dilynol, cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd adfywiol yn Nghapel y Wesleyaid, Llanfairfechan, pryd y pregethwyd gan y Parchn. T. Aubrey a M. Thomas. Y Sul canlynol yr oedd Mr. Michael Roberts, gynt o Eglwysfach, yn pregethu, a dychwelwyd pump o dan ei weinidogaeth. Y Sabboth canlynol i hyny, sef Chwefror 28, 1858, yr oedd y Parch. M. Thomas yno yn pregethu. Ei destyn oedd Job i. 5. “Ar ddiwedd yr odfa daeth y dylanwad ysbrydol ar yr holl wrandawyr fel gwynt nerthol yn rhuthro, nes yr oedd pawb wedi eu taenellu â'r gwlith ysbrydol. Yr adeg ryfedd yma gallasech weled y dagrau yn gorlifo yn brysur dros ruddiau pawb heb wahaniaeth pawb yn wylo yn hidl ac yn ocheneidio, rhai yn gwaeddi am drugaredd, ac eraill yn diolch am Waed y Groes." Ar ddiwedd yr odfa arhosodd 25 ar ol yn wir edifeiriol, ac yn wylo yn chwerw dost. Mawrth 25 yr oedd y Parch. M. Thomas yma eilwaith yn pregethu. Ymunodd â'r Eglwys o'r newydd y tro hwn eto ugain o ddynion a merched ieuainc gobeithiol, ac arwyddion edifeiriol iawn arnynt. Fe gofir ac fe genir ar fryniau anfarwoldeb am y nosweithiau hyfryd hyn. Yn ystod dau fis O amser ymunodd 134 â'r Eglwys Wesleyaidd a 60 âg Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd. Ymledodd y Diwygiad hwn i Aber, Penmaenmawr, Conwy a Llandudno, a cychwanegwyd ugeiniau at yr Eglwysi, ac hyny yn benaf trwy weinidogaeth y Parch. M. Thomas.
Yn y flwyddyn 1859 torodd y Diwygiad mawr a aeth fel tòn dros Gymru allan yn y Deheudir, ac fel hyn y bu. Yr oedd gŵr ieuanc o bregethwr o'r enw Mr. Humphrey Jones, genedigol o Dre'rddol, Sir Aberteifi, wedi ymfudio i'r America. Yn lled fuan wedi iddo gyrhaedd yno torodd allan ddiwygiad crefyddol a ysgydwodd y wlad drwyddi draw. Yfodd Mr. Jones ar unwaith o ysbryd y diwygiad hwnw, a gwisgwyd ef a nerth o'r uchelder. Ymwelai â'r Eglwysi Cymreig yn yr Unol Dalaethau, a bendithid ei weinidogaeth yn mhob lle er dychwelyd eneidiau. Pan yn anterth ei lwyddiant yn America teimlodd fod Ysbryd yr Arglwydd yn ei gymell i ddychwelyd i'w wlad, er deffroi ei genedl yn ol y cnawd. Glaniodd yn y wlad hon ddiwedd