PENNOD XIV.
Ymdrechion adnewyddol i gyfnerthu a llwyddo y gwaith yn Nghymru.
(O 1865 HYD 1886).
YN Nghyfarfod Talaethol Gogledd Cymru a gynhaliwyd yn Liverpool, Mehefin 6ed, &c., 1866, yr oedd y Parch. S. Davies yn y gadair am y tro cyntaf. Yr oedd wedi llenwi y gadair yn Nghyfarfod Cyllidol y Dalaeth a gynhaliwyd yn Dolgellau, Hydref 3ydd, &c., 1865 o'r blaen, a phrofodd yno ei gymhwyster i'r swydd. Ond yn Liverpool y cawsom ni y fraint o'i weled ef yn y gadair am y tro cyntaf. Hawdd oedd canfod ei fod yn llawn yni a gwaith. Yr oedd y Parch. T. Aubrey yn bresenol yn y cyfarfod hwnw, ac yn teimlo dyddordeb mawr yn yr holl weithrediadau. Tri pheth mawr y Cyfarfod hwn mor bell ag y cofiwn ni oeddynt,—Cyflwyno tysteb i Mr. Aubrey ar ei neillduad o waith rheolaidd y weinidogaeth; Pregeth y Parch. John Evans, Eglwysbach, yn Nghapel Brunswick, Moss Street; a'r Cynllun a ddygwyd gerbron y Cyfarfod i berffeithio Trysorfa Capelau y Dalaeth, a'i chael i'w ffurf bresenol. Cyflwynwyd y dysteb i Mr. Aubrey mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yn Nghapel Brunswick, ac hefyd anerchiad. Cynwysai y pwrs a estynwyd iddo gan y Cadeirydd y swm o £425 45. 1c., fel cydnabyddiaeth fechan o serch a pharch ar gyfrif ei wasanaeth dihafal i achos yr Arglwydd yn y Dalaeth. Prif araeth y Cyfarfod oedd eiddo Mr. W. Bridge, Conwy.
Yn yr hwyr y diwrnod hwnw traddododd y Parch. John Evans, Eglwysbach, ei bregeth boblogaidd ar "Ogoniant Digyffelyb Dinas Duw," seiliedig ar Salm lxxxvii. Yr oedd hen gapel enwog Brunswick dan sang, a'r pregethwr