Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/156

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwnaed symudiadau drachefn i gyfnerthu Trysorfeydd y Capelau. Ychwanegwyd at gyfalaf y Drysorfa Fenthycol y swm o £800 trwy gyfrwng Cymdeithas a ffurfiwyd yn y Dalaeth dan yr enw "Cymdeithas Fenthycol Capelau Wesleyaid Gogledd Cymru." Cafwyd hefyd o'r "Drysorfa Diolchiadol" y swm o £2,000 at ychwanegu Cyfalaf y Drysorfa Fenthycol, ac ar ol hyny chwyddwyd hi gan gymun—roddion.

Tra y symudid yn mlaen fel hyn yn y Dalaeth Ogleddol, gwneid ymdrech gyffelyb yn y Dalaeth Ddeheuol. Yr oedd gan y Dalaeth hon fel ei chwaer Dalaeth ei Thrysorfa Fenthycol, cyn i "Drysorfa Capelau" yn ei gwedd bresenol gael ei ffurfio. Cofiwn yn dda fod y Parch. T. Jones, D.D. yn casglu at ffurfio ei chyfalaf cyn i ni erioed. adael cartref.

Yn mhen blwyddyn wedi i'r Parch. T. Aubrey fyned yn uwchrif, cawn y Parch. T. Jones, D.D. yn gwneyd cais yn Nghynadledd Leeds, 1866, am caniatad i ymneillduo o waith reolaidd y weinidogaeth, ar ol teithio am 38ain o flynyddoedd, ac ar ol bod yn gadeirydd am 20ain mlynedd. Y Parch. Isaac Jenkins a etholwyd yn gadeirydd yn ei le—gŵr boneddigaidd a llariaidd iawn ei ysbryd a'i foes, ac yn llawn caredigrwydd. Fodd bynag, yn nhymor ei swyddogaeth ef y dechreuodd yr AMALGAMATION rwygo a dinystrio yr achos yn y Dalaeth Ddeheuol.

Yn 1872, rhanwyd Cylchdaith Gymreig Pontfaen. Cymerwyd rhai lleoedd oddiwrthi at Gylchdaith Caerdydd, a ffurfiwyd o'r lleill Gylchdaith Gymysg, a throsglwyddwyd hi i Dalaeth Bristol. Penodwyd gweinidog dwyieithawg iddi am dymor, ac yna yn y flwyddyn 1880, penodwyd gweinidog Seisnig iddi, gan ddiystyru yn hollol hawliau y Cymry i weinidogaeth yn eu hiaith eu hunain, ac y mae rhai yn aros hyd heddyw a gwynant o herwydd y camwri trahaus hwn.

Yn ystod tymhor swyddogaeth Mr. Jenkins dullweddwyd Trysorfeydd Capelau Talaeth Deheudir Cymru i'w ffurf bresenol. Maent o ran eu cyfansoddiad yn debyg i Drysorfeydd Capelau y Dalaeth Ogleddol.

Yn Nghynadledd 1875, ymneillduodd y Parch. Isaac Jenkins o gyflawn waith y weinidogaeth, ar ol llafurio am 40ain mlynedd, ac ar ol bod yn gadeirydd am wyth