Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/157

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mlynedd. Yn y flwyddyn hono penodwyd y Parch. David Evans (Degar) yn Gadeirydd y Dalaeth, a pharhaodd yn y swydd am chwe' blynedd. Bu cynydd o 305 yn rhif yr aelodau yn ystod tymor ei swyddogaeth ef, ac ataliwyd yr amalgamation i wneyd rhwyg a difrod.

Yn Nghynadledd 1880 penodwyd y Parch. D. Young yn Gadeirydd y Dalaeth Ddeheuol, a bu yn y swydd am wyth mlynedd, ac yna aeth i weinidogaethu i blith y Saeson. Yn ystod yr wyth mlynedd hyn bu lleihad o 50 yn rhif yr aelodau. Ymddengys mai y prif achos o hyny oedd. gwaith y Dalaeth yn rhoi i fyny yr achosion Cymreig yn Aberhonddu a Chaerfyrddin i'r Saeson. Yr oedd hyn yn gamgymeriad dirfawr ar ran y Dalaeth Ddeheuol, yn enwedig rhoddi i fyny Caerfyrddin, fel y gwelir yn ngoleuni yr ymdrech a wneir yn bresenol i adfeddianu y lle. Yn ystod swyddogaeth Mr. Young, aflonyddid yn barhaus ar y Dalaeth gan y symudiad oedd ar droed i geisio uno yr achosion Cymreig a Seisnig yn y Deheudir. Yn Nghynadledd 1883, a cynhaliwyd yn Hull, penodwyd pwyllgor i wylio buddianiau Methodistiaeth Wesleyaidd yn Neheudir Cymru. Gwnaeth y pwyllgor hwn aml ddrygau i'r achos Cymreig, ac am bum' mlynedd bu yn aflonyddu ar heddwch yr eglwysi, trwy ddwyn adroddiadau y naill flwyddyn ar ol y llall i'r Gynhadledd yn argymell fod yr achosion Cymreig a Seisnig i gael eu huno (yn anghymarus), ac yn Nghynhadledd 1887 cyflwynodd y pwyllgor hwn adroddiad neillduol iddi, yr hwn a gymeradwywyd ac a gymellwyd i ystyriaeth Cyfarfod Talaethol y Deheu. Cyflwynwyd yr adroddiad hwn i sylw y Cyfarfod Talaethol a gynhaliwyd yn Aberystwyth yn 1888. Ond gwrthodwyd ef gan fwyafrif gorthrechol. Safodd y Parchn. T. Morgan a W. Morgan yn benderfynol yn ei erbyn. Traddodwyd araeth alluog ac argyhoeddiadol yn yr un cyfeiriad gan Mr. Edward Rees, Machynlleth, ac felly hefyd gan y Parch. T. Manuel ac eraill. Safodd y gwyr hyn yn benderfynol dros hawliau yr achos Cymreig, a gwrandawodd y cyfarfod arnynt, ac felly rhoddwyd maen melin am wddf yr amalgamation a bwriwyd ef i eigion y môr.

Ar ol y gonewest hon, cafodd y Dalaeth Ddeheuol heddwch i fyned yn mlaen gyd â'i gwaith, a bu cynydd ar