yr achos bob blwyddyn yn olynol, oddeithr un, sef 1894. Yn 1888, rhif yr aelodau oedd, 4,381, ond yn 1898, 5617, sef cynydd o 1,236.
Yn Nghyfarfod Talaethol Gogledd Cymru a gynhaliwyd yn Blaenau Ffestiniog, 1886, gofynodd y Parch. Samuel Davies am ganiatad i fyned yn uwchrif, ac yn y Gynhadledd ddilynol caniatawyd ei ddymuniad iddo, ar ol bod yn y gwaith am 43ain o flynyddoedd, ac yn Gadeirydd Talaeth Gogledd Cymru am 21ain o flynyddoedd.
Ac yn y Cyfarfod Talaethol a gynhaliwyd yn Rhyl, cyflwynwyd anerchiad a thysteb iddo fel cydnabyddiaeth fechan o'i lafur ymroddol ac hunan-ymwadol, ac hefyd llwyddianus, er hyrwyddo yr achos yn ei holl ranau. Yr oedd ef yn weithiwr difefl yn ystyr lawnaf y gair, a bydd ei goffawdwriaeth byth yn fendigedig yn ei berthynas â Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig.
Y gweinidogion a alwyd allan i waith y weinidogaeth yn ystod y blynyddoedd hyn oeddynt y rhai canlynol:
1866.—1. ISHMAEL EVANS, o Colwyn, Sir Ddinbych; 2. HUGH HUGHES, o'r Braich, Tregarth, Sir Caernarfon; 3. DANIEL MARRIOTT, o Helygain, Sir Fflint; 4. HENRY PRITCHARD, o Glan Conwy, Sir Dinbych. Yr oedd ef yn ddyn ymroddol i'w waith, yn hynod o gydwybodol gyd â phob peth, ac wedi ei gynysgaeddu âg amryw dalentau disglaer. Yr oedd yn bregethwr mawr, ac yn y pwlpud fel yn mhob man arall yn ffyddlon i'w argyhoeddiadau. Llanwodd y swydd o Ysgrifenydd y Dalaeth Ddeheuol am dymhor. Bu farw yn Liverpool, Awst 3, 1897, yn ei 53ain flwydd o'i oes, a'r 31ain o'i weinidogaeth.
1867.—1. JOHN EVANS (C), o Eglwysfach, Sir Aberteifi; 2. Edward Humphreys, o Cefnblodwel, Sir Amwythig. Efe a etholwyd yn Gadeirydd cyntaf y Gymanfa Wesleyaidd Gymreig, ac y mae ar hyn o bryd yn Ysgrifenydd y Dalaeth Ogleddol; 3. Charles M'Cann, o Coedpoeth, Sir Ddinbych. Enciliodd; 4. John Jones (F), o'r Bontddu, Sir Feirionydd. Yr oedd yn bregethwr hwyliog, a bendithiwyd ei weinidogaeth er dychweliad llawer o bechaduriaid. Bu farw yn Llansantffraid, Sir Drefaldwyn, Ebrill 7, 1897, yn ei 55ain flwydd o'i oes, a'r 30ain o'i weinidogaeth.
1868.—1. THOMAS GRIFFITHS, o'r Braich, Tregarth, Sir Gaernarfon. Yr oedd yn weinidog cymeradwy a galluog. Daeth yn uwchrif yn ieuanc, a bu yn gystuddiol am flynyddoedd. Bu farw yn Felinheli, Mehefin 16, 1883, yn ei 36ain flwydd o'i oes, a'r 15fed o'i weinidogaeth; 2. John Hughes (C), Glanystwyth, o Cnwch Coch, Sir Aberteifi. Efe yw Goruchwyliwr y Llyfrfa, a Golygydd yr Eurgrawn ar hyn o bryd; 3. Rice Owen, o Cwmbrwyno, Sir Aberteifi. Efe yw Cadeirydd y Dalaeth Ddeheuol yn bresenol; 4. David Young, o Rhymni. Yn 1888 aeth i weinidogaethu at y Saeson.