Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/187

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XVII.

Emynyddiaeth Wesleyaidd Gymreig.

CREDWN nad oes yn llênyddiaeth yr un genedl y fath gyfoeth o Emynau ag sydd yn eiddo y Cymry. Perthyna i ni fel cenedl gyfansoddiadau barddonol dirif o bob amrywiaeth a theilyngdod. Ceir hwy yn doraeth. enfawr mewn Awdlau, Cywyddau, Englynion, Pryddestau, Pennillion, ac Emynau Mawl. Ond cân Crefydd y Cymry yw gogoniant ei holl ganiadau. Gweithiodd hon i fewn i fywyd y genedl, a bu y prif foddion, nesaf i'r Beibl, i greu yn ei meddwl syniadau ysbrydol, i ddullweddu ei bywyd crefyddol, ac i ddylanwadu er melysu cwpaneidiau chwerwon profedigaethau, ac i beri i filoedd seinio alawon y nef yn nglŷn cysgod angau. Y fath deimladau hyfryd a fwynhawyd gan gynulleidfaoedd Cymru wrth ganu mawl y ne', a seinio clodydd Duw a'r Oen, trwy gyfrwng Emynau, Salmau, ac Odlau Ysbrydol!

Wrth sylwi ar Emynyddiaeth y Cymry heddyw, a'i chymharu â'r hyn oedd yn nyddiau Edmund Prys, Ellis Wynn, o Lasynys, ac eraill, canfyddwn fod ei chynydd. mewn melodedd a swyn ysbrydol yn fawr iawn. Efallai na wnaeth gynydd mor fawr mewn cryfder, ond cynyddodd yn ddirfawr mewn purdeb a phrydferthwch. Perthyna i Emynyddiaeth pob enwad yn Nghymru ei nodweddion gwahaniaethol, er eu bod oll yn dwyn delw o debygoliaeth, ac yn rhai o'u llinellau yn un â'u gilydd. Un o linellau amlycaf Emynyddiaeth Wesleyaidd ydyw, 'yr hyder ffydd a'r sicrwydd gobaith a'i nodwedda. Gellir rhoddi dau reswm am hyn, yn 1af. Y ffurf o athrawiaeth sydd yn sylfaen iddi. Yn 2il. Y ffaith ddarfod i'r Methodistiaid Wesleyaidd ddyfod i gyffyrddiad agosach a'r bywyd crefyddol