amryw o Emynau Wesley, a chyhoeddodd hwy yn Llyfryn bychan. Gadawn i'r Emyn canlynol wasanaethu fel engraifft o'i waith:—
1 "Efengyl lawn a ddaeth i'r wlad,
Trwy rad ddaioni Iesu;
Mae lle i bawb yn awr gael byw,
Trwy ras Oen Duw fu'n prynu.
2 Ewyllys Duw yw achub dyn,
Sy'n awr yn cyndyn wrthod;
YNghrist mae lle i'n golchi'n lân
Oddiwrth wahanglwyf pechod.
3 Ymrown i ffoi i'r nef heb ffael,
Fel gallwn gael gwir heddwch;
A gras a nerth i rodio'n iawn,
Wrth reol lawn hyfrydwch.
4 Ac yna hyfryd iawn a rhwydd,
Fydd moli'r Arglwydd tirion;
Er gwaetha llid y ddraig a'i llu,
Cawn yn ei dy ddanteithion."
6. MR. OWEN WILLIAMS, WAENFAWR.
Medda Mr. Owen Williams, Waenfawr ar le pwysig yn hanes llenyddiaeth ein gwlad. Ysgrifenodd lawer, ac mewn cysylliad âg un arall cyhoeddodd "Eiriadur Ysgrythyrol," &c., yr hwn oedd yn waith lafurfawr iawn. Bu yn Bregethwr Cynorthwyol yn ein Cyfundeb. Yr oedd yn fardd enwog, a bu am dymor maith yn Arch—dderwydd" Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. At hyny, yr oedd yn Emynydd awenyddol. Efe ydoedd awdwr yr Emyn 80 yn ein Llyfr Emynau, sef "I achub f' enaid tlawd mewn pryd," &c., a gresyn na buasai ei enw wrthi. Cyfansoddodd lawer o Emynau, ac yn eu plith y rhai canlynol:—
TAITH YR ANIAL.
"PA bryd y derfydd imi deithio
'R anial garw lle 'rwyn'n byw;
Ac y derfydd gorthrymderau
A gofidiau o bob rhyw?
O na ddeuai'r amser hyfryd
I mi ganu'n iach i hyn,
A mwynhau tragwyddol heddwch
Yr Oen fu farw ar y bryn."
BUDDUGOLIAETH AR ANGAU
1 "BRENIN y dychryniadau yw
Angau a'i golyn llym;
Ond tra b'wy'n rhodio gyda Duw
Ni wna byth niwaid im'.
2 Pan byddwyf yn wynebu'r glyn,
Fy nychryn byth ni wna;
Canys caf rodio'r dyffryn du,
Heb blygu gan ei bla.
3 Brenin y Saint, fy Mrenin yw
Gorchfygwn angau glas;
Dyma fy nghymorth, dyma'm Duw,
Dyma fanfeidrol ras.'
Yn mis Medi, 1822, cynhaliwyd y Cyfarfod Cyllidol yn Dolgellau, ac yn hwnw dymunwyd ar y Parchn. William Davies, 1af, John Williams, 1af, ac Edward Jones, 3ydd i ddwyn allan ail-argraffiad o'r ail Lyfr Hymnau. Ymgymerasant â'r gwaith ar unwaith, a chyhoeddwyd y Llyfr yn 1823. Yn hwn cyfnewidiwyd rhai Emynau, ac ychwaneg-