wyd amryw dan y penawd " Amrywiaeth." Cynwysai 483 o Emynau, ac felly fwy o 62 nag oedd yn yr argraffiad cyntaf. Yn 1825 cyhoeddwyd trydydd argraffiad o hon dan ofal y Parch. W. Evans yn 1826, pedweryd argraffiad dan ofal yr un, ac yn 1833, cyhoeddwyd pumed argraffiad o hono dan olygiad y Parch. E. Jones, 3ydd Ni fu ond ychydig o gyfnewidiadau yn y tri argraffiad diweddaf. Yn 1837, cyhoeddwyd y chweched argraffiad, a'r olaf o'r ail Lyfr, dan olygiad y Dr. Thomas Jones. Cynwysa hwn 674 o Emynau, sef mwy na'r argraffiadau o'r blaen o tua 90. Cynwysir yr ychwanegiad mewn "Attodiad" i'r Llyfr. Casglwyd y cyfryw gan y Parch. David Evans, 1af, ac yn eu plith ceir amryw o Emynau Mr. Wesley, wedi eu cyfieithu gan Mr. Bryan. Hwn oedd yr argraffiad olaf o'r ail Llyfr Emynau.
7. MR. THOMAS WILLIAMS, CEFNMAWR.
Ceir Cofiant i Mr. Williams, yn "Eurgrawn" Chwefror, 1831. Argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth yr anfarwol Williams o'r Wern, ond Mr. E. Williams, Llangollen, yn mhen tua dwy flynedd ar ol hyny a'i harweiniodd at Oen Duw. Yr oedd efe yn ŵr duwiol iawn; a bu farw wedi cystudd blin yn nodedig o ddedwydd, Rhagfyr 17eg, 1829, yn 35ain mlwydd oed. Cyfansoddodd lawer o Emynau rhagorol. Efe ydyw Awdwr yr Emyn: "De'wch bechaduriaid mawrion," &c. Ceir hwn yn yr ail Lyfr Hymnau, rhif 416, ac yn y trydydd (1845) rhif 296, ac y mae i mewn yn y pedwerydd Llyfr (1900) rhif 256. Efe oedd Awdwr yr Emynau canlynol:
DUWIOLDEB YN ELW.
1 "DUWIOLDEB sydd yn elw mawr
Gyd â boddlonrwydd ar y llawr;
Pa les i ddyn, pe 'nillai'r byd
A cholli ei enaid gwerthfawr drud?
2 Addewid i dduwioldeb sydd,
A'r bywyd hwn a'r hwn a fydd;
Mae hon yn fuddiol yn mhob lle
Ac i bob peth o dan y ne'.
3 Nesau yr wyf o awr i awr,
O hyd i dragwyddoldeb mawr;
O rho' dduwioldeb yn ei grym,
Fel y bydd marw yn elw im'."
PA LE Y BYDDI?
1 Ystyria f'enaid gwerthfawr drud,
Pa le ryw bryd y byddi:
Pa un ai yn y nefoedd fry,
Ai obry mewn trueni.
2 O chwilia'n ddyfal ac yn ddwys,
Am Iesu i bwyso arno;
A rho d' ymddiried ynddo Ef;-
Cei nef dragwyddol ganddo."