Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/199

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

5 Tra'n lliwio'r cydfyd mawr,
Yn Frenin llawn o fri,
O'i wychedd oll edrycha i lawr
Yn serchog arnom ni.

6 Boed moliant iddo byth,
Goruwch ac is y nen;
Rhoed nef a daear yn ddilyth
Goronau ar ei ben."


16. PARCH. LEWIS MEREDITH (LEWYS GLYN DYFI).

Cyfansoddodd Lewys Glyn Dyfi amrai ddarnau barddonol prydferth a swynol iawn. Cyhoeddodd Lyfr o'i weithiau barddonol dan yr enw "Blodau Glyn Dyfi," yn y flwyddyn 1852. Yr oedd yn bregethwr melus odiaeth, a cholled fawr i Gymru fu ei ymfudiad i'r America. Ysgrifenodd Mr. Edward Rees Gofiant rhagorol iddo, yn hwn a ymddangosodd yn "Yr Eurgrawn" am y flwyddyn 1894. Rhoddwn yma ddau o'i Emynau:

TREFN GRAS.

1 "Y drefn i gadw dyn,
A'i wneyd yn hardd ei lun,
Heb unrhyw goll,
Sy'n destyn syn bob awr
Gan feibion boreu'r wawr,
A dyma syndod mawr
Y bydoedd oll.

2 I wneyd y gorchwyl mawr
Er achub teulu'r llawr
Rhag bythol gur;
Trwy boenau o bob rhyw
Yr aeth ein Iesu gwiw,
Gan flam angerddol, fyw,
Ei gariad pur.

3 Rhown ninau oll yn awr
Am gariad sy' mor fawr
Bereiddiaf glod;
O deued pawb yn nghyd
I gysgod Prynwr byd;
Cawn drwyddo noddfa glyd,
Tra nef yn bod."


EMYN CENHADOL.

1 "Dos yn gyflym fwyn Efengyl,
I waredu llwythau'r llawr;
Ffy dywyllwch byd ar encil
Fel y nos o flaen y wawr;
Llanw'r ddaear,
A disglaerdeb nefol ddydd.

2 Llais erfyniol pell ynysoedd
Gyda'r gwyntoedd atom ddaw;
Disgwyl mae yr holl genhedloedd
Am y diwrnod sy' gerllaw,
Pan gyflawnir,
Hen addewid fawr y nef.

3 Ffrydiau gras yn llawn a lifant
Nes cyrhaeddant dros y byd;
Yn y fan fu'n drigfa dreigiau
Tyf perlysiau teg eu pryd,
Pur sancteiddrwydd,
A fantella'r ddaear faith.

4 Yn ngwynebpryd hardd-deg Seion
Ymddisgleiria delw Iôr;
Bydd ei heddwch fel y afon,
A'i chyfiawnder fel y môr;
Dedwydd ddyddiau!
O na wawria'r hyfryd awr.


17. MR. WILLIAM JONES (EHEDYDD IAL), LLANDEGLA.

Cyhoeddwyd Cyfrol fechan yn ddiweddar gan y Parch. John Felix, dan yr enw "Blodau Iâl," yn cynwys Cofiant a Gweithiau Mr. William Jones. Wrth ymgynghori â'r Gyfrol hon canfyddir yn eglur ei fod yn Emynydd cryf ac