urddasol. Peru ei Emyn "Er nad yw'm cnawd ond gwellt" tra peru yr iaith Gymraeg. Ceir amryw o'i gyfansoddiadau yn y Casglad Newydd o Emynau at wasanaeth y Methodistiaid Wesleyaidd, a chyfeiriwn y darllenydd at y cyfryw.
18. MR. T. R. MARSDEN (DIDYMUS AP GWILYM), TREFFYNNON.
Esgynodd D. ap Gwilym i safle barchus fel Llenor a Bardd yn mhlith goreugwyr ein henwad. Brawd ydoedd i Mr. John Marsden (Y Llyfrbryf Wesleyaidd).—Wesleyad nad oes yn ein Cyfundeb yr un mwy selog a ffyddlon. Cyfoethogodd lawer ar ein Misolion gyd â'i gyfroddion gwerthfawr yn llenyddol a barddonol. Medrai Emynu yn naturiol a tharawiadol. Efe a gyfansoddodd yr Emyn canlynol:
1 "Neb, Iesu, ond Tydi,
Ddymuna f'enaid i,
Mewn nef na llawr;
Tydi, Oen addfwyn Duw,
Hoff Geidwad dynolryw,
Tydi fy Mhrynwr byw,
A'm Brenin mawr.
2 Iachawdwr Calfari,
O gwrando ar fy nghri,
O'r nefoedd clyw!
'Rwyn erfyn wrth dy draed,
O golch fi'n awr yn ngwaed
Yr aberth mwyaf gaed,
A gad i'm fyw.'
Gofod a palla i ni fynegu am y Parch. Robert Humphreys, Bardd Du Môn, Mr. Griffith Williams (Gutyn Peris) a'i fab, Mr. E. G. Williams (E. G. Peris), Mr. R. Jones (Bardd Mawddach), Iolo Fardd Glas, Parch. Lewis Williams (Lewys Egryn), Miss Owen (Mair Hydref), Mr. Elias Edwards, Tregarth, y Parch. Griffith Jones, Aberdaron, y Parch. Evan Evans (Y Bugail), y Parch. David Jones (c), (Dewi Mawrth), O. Cethin Jones, ac eraill.
Pan yn ysgrifenu, mae ein Llyfr Emynau Newydd ar ddyfod allan o'r wasg. Casglwyd ef gan y Parchn. John Hughes (Glanystwyth), John Cadvan Davies, T. J. Pritchard, John P. Roberts a John Humphreys, a hyny trwy benodiad Cyfarfodydd Talaethol y Gogledd a'r Deau. Hwn ydyw y pedwerydd Llyfr Emynau a gasglwyd at ein gwasanaeth fel Enwad yn Nghymru. Gadawr i'n darllenwyr ffurfio barn am dano yn annibynol ar unrhyw ddatganiad o'r eiddom ni am dano. Fel y gwel ein darllenwyr, nid ydym wedi dywedyd dim am ein Hemynwyr sydd eto yn aros yn mhlith y byw.