Un o'n Pregethwyr Cynorthwyol Cyntaf yn Maldwyn, oedd Mr. John Lloyd, Meifod. Dychwelwyd ef dan weinidogaeth y Parch. Owen Davies. Profodd holl nerth dymhestl yr argyhoeddiad, a hyfryd oedd iddo gael glànio i hafan dymunol heddwch â Duw ar ol tywydd mor arw. Dechreuodd bregethu yn mlynyddoedd cyntaf y Ganrif, ac ymroddodd i'r gwaith gydag egni a ffyddlondeb mawr. Nid oedd genym Gapelau yn y wlad pan ddechreuodd efe bregethu, felly "safai i fyny yn ddewr a galluog yn yr awyr agored o flaen tyrfa o gellwerwyr cyhoeddus, fel Petr ar ddydd y Pentecost, gan gyhuddo eu beiau yn eu gwynebau gyd â grym ac eondra mawr, nes y byddai yn gyffredin ar ddiwedd yr odfa fel ar for Galilea, pan y gostegodd y gwyntoedd, y llonyddodd y tonau, ac y bu tawelwch mawr; ac yn aml, sibrwd i'w glywed pa beth i'w wneyd i fod yn gadwedig." Bu farw mewn heddwch mawr, Gorphenaf 29ain, 1836, yn 59 mlwydd oed.
Un arall o'n Pregethwyr Cynorthwyol Cyntaf yn Maldwyn oedd Mr. Robert Jones, Fron Goch (wedi hyny Abercegir). Ymunodd ef â'r achos yn Cwmbychanmawr, Plwyf Darowen, dan weinidogaeth y Parch. Edward Jones, Bathafarn, a hyny pan yn fachgen ieuanc 18 mlwydd oed. Efe oedd blaenor cyntaf yr Eglwys a sefydlwyd yn Tŷ Cerrig, ac a gyffyrddai mewn ystafell berthynol i Mr. Thomas Humphreys, taid ysgrifenydd yr hanes hwn. Yn fuan wedi ymuno â'r achos dechreuodd bregethu, cyfododd i gryn boblogrwydd, a byddai galw mawr am ei wasanaeth. Teithiodd lawer yn y Cylchdeithiau cyfagos yn y Gogledd a'r Dê. Yr oedd yn ddyn o dduwioldeb ddiamheuol, ac yn ŵr mawr gyd â Duw mewn gweddi. Dyma fel y dywedodd y Parch. Henry Parry, am dano, yr hwn a'i hadwaenai yn dda—"Pan mewn hwyl, a than arddeliad, diferai ei ymadroddion fel gwlith-wlaw ar îr-wellt, tra y gwnai geiriau gwirionedd a sobrwydd' o'i enau i'r annuwiol grynu.
Pan yn meddwl am dano yn ei hwyliau a'i amserau goreu, tueddir fi i gymhwyso ato eiriau a gymhwyswyd at eraill, tebyg i hyn:
"Soniarus oedd ei eiriau pan fyddai'r gwynt o'i du,
Ac awel nef yn chwythu yn nerthol oddifry;
Gallesid meddwl weithiau pan roddai maes ei lef,
Y buasai'r creigiau yn hollti gan rym ei daran gref."