Bu farw yn yr Arglwydd, Mawrth 28ain, 1876, yn 88 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu am oddeutu 68ain o flynyddoedd.
Un arall o Bregethwyr Cynorthwyol Cyntaf y Ganrif, oedd Mr. William Parry, o Llandegai, ger Bangor. Yr oedd ef yn llawn o ysbryd y gwaith, a theithiai lawer ar hyd alled y wlad i gyhoeddi yr Iachawdwriaeth Gyffredinol, i alw pechaduriaid i edifeirwch, ac i sefydlu achosion newyddion. Cawn ef mor foreu a'r flwyddyn 1804 gyd â Mr. Jones, Bathafarn, yn teithio trwy gyrau o Sir Feirionydd, a Sir Aberteifi, a Duw yn bendithio ei lafur mewn modd neillduol,
Yr oedd Mr. R. Jones, Llwyngyffri yn un o flaenffrwyth Wesleyaeth yn Dyffryn Ardudwy. Ymunodd â'r achos yn 1804, ac yn mhen ychydig o amser dechreuodd bregethu, ac yr oedd yn ddyn Duw mewn gwirionedd. Wyr iddo ef ydyw y Parch. R. Jones (B), Cyn-Gadeirydd Talaeth Gogledd Cymru. Yr oedd yn ŵr rhagorol, yn bregethwr grymus, ac yn flaenor ffyddlon. Meddai hefyd ar graffter i adnabod talent, fel y prawf yr amgylchiad canlynol—Pan oedd Mr. Rowland Hughes yn Bregethwr Cynorthwyol ar Blan Cylchdaith Dolgellau, bu agos iddo gael tynu ei enw oddiarno, gan nad oedd neb y gweled dim cymhwyster ynddo i fod yn bregethwr, ond cymerodd Mr. R. Jones ei blaid, a llwyddodd i gael cadw ei enw ar y Plan am chwarter arall. Felly, iddo ef yr ydym i ddiolch am gadw Rowland Hughes i ni fel Wesleyaid. Perarogla coffawdwriaeth Mr. R. Jones, yn Nyffryn Ardudwy hyd heddyw, ac erys yn fendigedig byth.
Un arall o ddynion y cyfnod hwn oedd Mr. Edward Thomas, Tyddyn Du, Dyffryn Ardudwy. Ymunodd â'r achos yn y Dyffryn yn y flwyddyn 1805, ac yn mhen naw mis ar ol hyny dechreuodd bregethu. Fel hyn y desgrifir ef fel pregethwr gan y Parch. Samuel Davies, yn ei Gofiant:—"Yr oedd y dwysder anghyffredin a deimlodd cyn dechreu ar y gwaith, wedi cael y fath argraff arhosol ar ei feddwl, fel na feiddiai am foment edrych ar y swydd bwysig ond gyd â chryndod sanctaidd, ac ni ddringai byth i'r areithfa ond fel cenad dros Dduw, a thraddodai ei genadwri nid fel gair dyn, ond fel yr oedd yn wir Air Duw.