Yr oedd Mr. Richard Jones, Trawsfynydd yn hen bregethwr galluog a defnyddiol, ac yn ddyn rhagorol, ac felly hefyd Mr. Richard Jones, Talhaiarn Farm; taid y Parch. Richard Lloyd Jones, ac eraill yn Nyffryn Clwyd a lleoedd eraill.
Un o flaenffrwyth ein Gweinidogaeth yn Arfon, oedd Mr. Edward Roberts, Llandwrog. Ganwyd ef yn Nhyddyn yr Oerfel, yn Mhlwyf Niwbwrch, yr ochr ddeheuol i Ynys Môn, Iau Dyrchafael, 1779. Enillwyd ef at yr Arglwydd yn y flwyddyn 1802, dan weinidogaeth Mr. Edward Jones, Bathafarn. Yn niwedd mis Mawrth, 1805 cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol Caernarfon, yn yr hen Chwareudy, yn Mhenyrallt, ac yn mhlith pethau eraill a wnaed yno, holwyd Edward Roberts, Llandwrog gan Meistri Edw. Jones, Bathafarn, a John Morris, a phenderfynwyd ei dderbyn ar brawf fel Pregethwr Cynorthwyol. Mae yn ymddangos fod rhyw rai wedi bod yn dywedyd wrth y Gweinidogion na fedrai y Cynghorwr ddim darllen ei Feibl,' a'r canlyniad fu, i'r holi fu arno yn y Cyfarfod Chwarterol fyned mor bell, nes cynwys y ddwy elfen bwysig yma; yn gyntaf, darllen pennod o'r Beibl; ac yn ail, pregethu pregeth there and then, heb air o rybudd blaenorol, gerbron y Cyfarfod Chwarterol. Er hyny aeth trwy y cwbl yn hynod o gymeradwy. Ei farn ei hun oedd hon, 'os pregethais i, ac os darllenais erioed, dyma'r adeg y gwneis i hyny.'" Dioddefodd gryn erlidigaeth am ei fod wedi ymuno â'r Wesleyaid, ond gofalodd Duw am dano yn rhyfedd. Fel Pregethwr yr oedd ganddo ddawn naturiol, gynhes, ac effeithiol; ac ambell dro, pan mewn hwyl ysbrydol dda, llefarai yn gynhyrfus iawn. Bu o wasanaeth fawr i'n hachos yn nydd ei bethau bychain. Gorphenodd ei yrfa mewn llawenydd, Ebrill 19eg, 1866, yn 87 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu am 61ain o flynyddoedd. Wŷr iddo ef ydyw Mr. Edward Roberts, sydd yn byw yn awr yn Gwernafalau, Llandwrog, ac yn un o ffyddloniaid ein henwad yn Nghymru.
Gyda bod yr achos Wesleyaidd Cymreig wedi ei Sefydlu yn Liverpool, ymunodd un Mr. Edward Evans âg ef, yr hwn oedd ar y pryd yn bregethwr gyda'r Ymneillduwyr, a bu yn ddiwyd iawn fel pregethwr gyd â ni. Ymunodd â ni am