Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/208

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei fod yn Armin egwyddorol. Bu farw Ebrill 21ain, 1809, a mawr oedd y galar ar ei ol yn mhlith aelodau ei restr.

Dechreuwyd yr achos yn Liverpool gan Meistri Richard. Davies a William Lewis. Yr oedd y cyntaf yn frodor o Dinas Mawddwy, a'r llall o gymydogaeth Corwen, fel y tybid. Saer oedd Mr. Richard Davies yn ol ei gelfyddyd. Perthynai iddo lawer o hynodion. Ond yr oedd yn hynod o gymeradwy gan y frawdoliaeth, ac yn ymroddedig iawn i waith yr Arglwydd. Wrth farw gadawodd dystiolaeth dda ar ei ol. Dechreuodd bregethu gyd â'r Cymry yn 1801. Dychwelwyd William Lewis at grefydd yn y flwyddyn 1800, yn mhlith y Saeson, ond mae yn debyg mai gyd â'r Cymry y dechreuodd bregethu ar gychwyniad yr achos yn 1801. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy ac yn weddiwr mawr. Medda y ddau hen wron uchod le amlwg yn hanes sefydliad Wesleyaeth Gymreig yn Liverpool.

Wedi i'r Parch. Edward Jones, Bathafarn, sefydlu yr achos Cymreig yn Manchester, yn Mawrth 1804, cymerwyd ei ofal ef yn benaf gan frawd ffyddlawn iawn, o'r enw Edward Jones, brodor o Lanasa, yr hwn oedd yn Bregethwr Cynorthwyol hynod gymeradwy. Bu ei wasanaeth o fendith anrhaethadwy i'r Eglwys fechan oedd newydd ei sefydlu, a bu o dan fendith Duw yn offeryn i ddwyn llawer o eneidiau at y Gwaredwr. Dilynai ei alwedigaeth ar hyd yr wythnos, a phregethai bron yn rheolaidd bob Sul, a hyny gyd âg arddeliad neillduol. Torodd ei iechyd i lawr cyn hir gan orlafur, a gwynebodd yn ol i'w wlad enedigol am adferiad yn ei hawyr a'i hawelon adfywiol.

Dyma i'r darllenydd hanes ychydig o'n Pregethwyr Cynorthwyol cyntaf, y rhai a dechreuasant bregethu o 1801 hyd 1810. O 1810 cyfododd llu o bregethwyr enwog, a chroes fawr ydyw i ni roddi ein hysgrifell heibio heb cyfeirio at rai o honynt. Ond rhaid ei chodi, oblegid nis gwyddom yn mha le i dynu y linell derfyn rhwng y rhai i'w nodi a'r rhai i'w gadael yn ddisylw. Bendithiwn Dduw am y gweision ffyddlon y Pregethwyr Cynorthwyol, a gallwn yn hawdd gymell ein darllenwyr yn ngeiriau Awdwr y Llythyr at yr Hebreaid—"Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi Air Duw; ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt."