PENNOD XIX.
Safle Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig yn ei pherthynas a Chwestiynau Cyhoeddus, &c., y Ganrif.
NIS gallwn ni y Methodistiaid Wesleyaidd mwy na'r Methodistiaid Calfinaidd hawlio yr un safle yn ein perthynas â Chwestiynau Cyhoeddus ag a fedr yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr. Hwy a ymladdasant y brwydrau mawrion ac a wnaethant aberth ac hunan-ymwadiad personol er mwyn sicrhau y graddau helaeth o ryddid a chydraddoldeb crefyddol a feddwn fel Ymneillduwyr yn awr. Yn ein llysoedd uchaf buom ni a'r Methodistiaid Calfinaidd ar y cyntaf yn hynod o araf i symud ac i ymdrechu yn gyhoeddus o blaid mesurau gwleidyddol i sichau cyfiawnder a dyrchafiad cymdeithasol. Yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr a lafuriasant yn y cyfeiriadau hyn, a ninau y ddau gorph Methodistaidd a aethom i mewn i'w llafur hwynt. Eto, dywedwn yn hyf na buom ni fel Enwad mor ddisymud gyd â Chwestiynau Cyhoeddus yn Wleidyddol a Moesol ag y myn rhai i ni fod.
Dygwyd llawer o gyhuddiadau yn ein herbyn fel Wesleyaid, am na buasem yn cydweithredu yn fwy calonog âg Enwadau eraill i ymladd brwydrau Cwestiynau Cyhoeddus a Gwleidyddol, oeddynt yn cyffroi ein gwlad ar wahanol brydiau yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyhuddwyd ni o'r trosedd hwn gan y Parch. Thomas Rees, D.D., yn ei Lyfr ar "Hanes Anghydymffurfiaeth Brotestanaidd yn Nghymru," a hyny yn y geiriau canlynol:—"Tra yr ydym fel hyn yn ei hystyried yn ddyledswydd arnom i roddi i'r Wesleyaid Cymreig bob credid sydd ddyledus iddynt am eu gweithgarwch canmoladwy a'u defnyddioldeb, eto,