nis gallwn amgen na datgan ein hanghymeradwyaeth i'w difaterwch a'u hwyrfrydigrwydd beius, a ddangosasant bob amser pan y gelwid arnynt i gydweithredu â'u brodyr Anghydffurfiol yn eu hymdrechion i sicrhau yr iawnderau hyny, y rhai a ganiatawyd iddynt gan ddeddfwrfa y wlad o bryd i bryd. Mae ein cyfeillion Wesleyaidd mor barod â neb i grafangu y rhagorfeintiau a gafwyd trwy lafur y sawl a lys—enwir yn Ymneillduwyr Politicaidd,' ond cadwant draw yn ofalus oddiwrth yr ymdrechion angenrheidiol i'w sicrhau. Yn hyn ni bu iddynt erioed gyflawni rhan brodyr ffyddlon," tudalen 423. Gwnaed Cyhuddiadau cyffelyb hefyd yn "Y Dysgiedydd," ac yn "Y Cronicl" Bach. Ac ni bu "Baner ac Amserau Cymru" ychwaith na segur na diffrwyth yn ei hymosodiad ar, a'i chyhuddiadau di-sail yn erbyn Wesleyaeth. Yn y rhifyn am Chwefror 20fed, 1867, ceir erthygl ynddi dan y penawd, "Y Cyfundeb Wesleyaidd; a'i berthynas & Mesurau Cyhoeddus Gwladol a Chrefyddol." Ceir ynddi y cyhuddiad hwn yn erbyn Wesleyaeth—" Mae yn perthyn i Gyfundebau eu dyledswyddau gyd â golwg ar y byd hwn, a chyd â golwg ar y byd a ddaw. Y mae y Cyfundeb Wesleyaidd yn barod iawn i addef ei rwymedigaeth gyd â golwg ar y dosbarth olaf o ddyledswyddau, ond nid mor barod i addef eu cyfrifoldeb gyd â golwg ar y dosbarth blaenaf. Dyledswyddau y byd a ddaw' sydd yn myned â sylw mawr y Cyfundeb.' Ond yr ydym yn tybied fod yn rhaid addef mai esgeulus iawn ydyw o'i ddyledswyddau gyd â golwg ar y byd hwn. Mae yn ddiwyd i barotoi dynion i ogoniant,' ond yn araf iawn i'w dysgu pa fodd i etifeddu y ddaear.' Am y cyntaf mae i'w ganmol yn fawr, ond y mae y Cyfundeb Wesleyaidd wedi myned yn hynod yn mhlith yr holl Gyfundebau ar gyfrif y pellder a'r difrawder anesboniadwy sydd yn nodweddu holl ymddygiadau yr Enwad yn ei berthynas â chwestiynau pwysig y wlad a'r amseroedd.... Mae yn rhaid i'r Cyfundeb ymuno (âg Enwadau eraill) neu golli y gronyn olaf o gydymdeimlad Cyfundebau Ymneillduol eraill."
Dyma y cyhuddiadau, ond credwn y gallwn ddangos fel yr awn yn mlaen, eu bod yn hollol ddisail. Cydnabyddwn nad oedd Wesleyaid Cymreig y dyddiau gynt yn cydweithio âg Enwadau eraill yn Nghymra i hyrwyddo Mesurau