Cyhoeddus, ond er hyny gweithient gyd â'r Cyfundeb y perthynent iddi o blaid y cyfryw. Ond ar bwy yr oedd y bai? Am flynyddoedd wedi i'r Wesleyaid ymsefydlu fel Enwad yn Nghymru, dywed Dr. Thomas Rees, fod yr Enwadau eraill yn edrych arnynt gyd â math o arswyd, "ac yn enwedig fod y Methodistiaid Calfinaidd wedi cadw draw oddiwrthynt am flynyddoedd," fel cofleidwyr y cyfeiliornadau mwyaf dychrynllyd a gwrthwyneb i Air Duw oedd yn bosibl. Ai oni ddengys y ffeithiau hyn yn eglur fod yr Enwadau eraill yn cau eu drysau yn erbyn y Wesleyaid i ddyfod i mewn i gylch cyd-weithgarwch? Heblaw hyny ymosodid arnynt yn barhaus trwy y wasg, ac o bwlpudau y gwahanol Enwadau. A phan y goddiweddwyd y Cyfundeb gan ddydd y dymhestl a'r ddrycin yn y blynyddoedd 1830 a 1850, pwy gafodd gydymdeimlad yr Enwadau Ymneillduol Cymreig—Y Wesleyaid teyrngarol a ffyddlon i'w hegwyddorion; ynte eu henllibwyr a lladron eu Capelau? Gadawn i Dr. William Davies ateb y cwestiwn hwn yn y geiriau canlynol:—"Pob parch i bersonau unigol caredig, Cristionogol, a boneddigaidd yn perthyn i bob Enwad; gwelsom gydymdeimlad ychydig o rai felly, ac nis gallwn ei anghofio; ond ychydig iawn oeddynt. Am. y mwyafrif mawr o weinidogion a phobl y Cyfundebau Ymneillduol yn Nghymru, cawsom oddiar eu llaw gas yn lle cariad, dirmyg yn lle parch, a phob peth oedd groes iddo yn lle cydymdeimlad. . . . Gellir dyweyd am y Cyfundeb Wesleyaidd yn Nghymru fel y dywedodd Jacob am ei fab Joseph—'Y saethyddion a fuont chwerw wrtho ef, ac a'i saethasant ac a'i casasant ef;' 'Ond i Dduw y bo y diolch,' gallwn ychwanegu a dywedyd, 'Er hyny arhodd ei fwa ef yn gryf, a breichiau ei ddwylaw ef a gryfhasant, trwy ddwylaw grymus Duw Jacob;' a myned rhagom drachefn i ddywedyd ei fod er gwaethaf pob tywydd wedi bod hyd yma yn gangen ffrwythlawn, cangen ffrwythlawn wrth ffynnon, ceinciau yn cerdded hyd y mur.'"
Ond a ydyw y cyhuddiad yn wir ein bod ni fel Wesleyaid wedi dangos difrawder a difaterwch yn nghylch Cwestiynau Cyhoeddus, a'n bod yn fwy parod i grafangu y breintiau nag i ymladd y brwydrau er eu cael? Mae y Wesleyaid Cymreig yn rhan o'r Cyfundeb Wesleyaidd a gymer i mewn