Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Canmlwyddiant Wesleyaeth Gymreig.pdf/212

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr holl Wesleyaid yn Lloegr, Cymru a Scotland. Felly, pa beth bynag a wnaeth y Cyfundeb er sicrhau y breintiau sydd yn awr yn etifeddiaeth gyffredinol yr Ymneillduwyr, mae i'r Wesleyaid Cymreig ran o'r clod, oblegid cydweithiasant â'r Cyfundeb er eu sicrhau. Ac yr ydym heb betruso yn dywedyd, beth bynag a gafodd y Wesleyaid fel breintiau yn ystod y can' mlynedd diweddaf trwy ymdrechion yr Enwadau Ymneillduol, fod yr Enwadau Ymneillduol wedi cael, a dyweyd y lleiaf, llawn cymaint o freintiau trwy ymdrechion y Wesleyaid.

Yr oedd y Parch. John Wesley, A.C., yn hynod effro i bynciau cyhoeddus y dydd, ac ysgrifenodd lawer o erthyclau ar bynciau politicaidd ei oes.. Ac ni fu y Cyfundeb a Sefydloedd yn ddifater na difraw yn nghylch mesurau i wella sefyllfa y wlad, ac i ddyrchafu dynoliaeth. Ond ni ddarfu i'r Cyfundeb erioed rwymo ei hun i gefnogi gwleidyddiaeth plaid, a gweddiwn am iddo gael ei gadw byth rhag gwneyd y fath beth. Diameu y cadwa byth yr hawlfraint iddo ei hun i benderfynu y Cwestiynau a'r Mesurau ddylent gael ei gefnogaeth a'i holl ddylanwad er eu hyrwyddo.

Gwnaeth y Wesleyaid eu rhan yn deilwng o honynt eu hunain er dwyn oddiamgylch ryddhad y Caethion; ac os safasant yn erbyn rhyddfreiniad y Pabyddion, eto pleidiasant Ddadgysylltiad yr Eglwys yn yr Iwerddon; ac o hyny hyd yn awr nid oes neb a wnaeth fwy i sicrhau i'r Ymneillduwyr eu hiawnderau, a safant i fyny yn selog dros gydraddoldeb crefyddol. "Ac yna, pan oedd canoedd o Gapeli Ymneillduol y deyrnas wedi myned yn eiddio personol ychydig o ddynion a elwid yn Trustees, oherwydd fod eu Gweithredoedd heb eu henrolio o fewn cylch yr amser penodedig gan gyfraith y wlad, i bwy y mae Ymneillduwyr y deyrnas yn gyffredinol yn ddyledus am yr Act yn awdurdodi yr Enrolment Office i enrolio hen weithredoedd fel ag i wneyd yr eiddo a gynrychiolid ganddynt yn Charities mewn gwirionedd, ac nid yn private properties? Atebaf yn hyf, i'r Wesleyan Chapel Committee, yn fwy nag i neb ryw gorphoriaeth arall o fewn y Deyrnas Gyfunol' (Dr. W. Davies, gwel Eurgrawn 1867, tudalen 167).