Tudalen:Cantref Meirionydd.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD YR AWDWR .

Wedi llawer o draul mewn amser a llafur, ac ymroddiad yn ngwyneb anhawsderau, anturir dwyn y llyfr hwn i sylw y darllenydd . Ac yr ydwyf yn dymuno defnyddio y cyfleustra presenol i ddiolch i bawb a'm cynorthwyodd i'w gwblhau, ac y maent yn lliosog. Nid yw ei hynafiaethau yn cynwys holl Gantref Meirionydd, er hyny, ar ol dwys ystyriaeth, dewiswyd ei alw CANTREF MEIRIONYDD . A chynwysa y plwyfydd, – Dolgellau — Llan Fihangel y Pennant — Llan Egryn — Llan Gelynin — Tal y Llyn — Penal — a Thywyn. Hefyd , benodau ar Feirionydd — Y dull llosgol o gladdu — Meini hirion — a Charneddau — Cadair Idris ac Idris Gawr - Ffyrdd Rhufeinig — a Chantref Gwaelod.