Gwirwyd y dudalen hon
55
CYFLWYNEDIG I
GOFFADWRIAETH FY NHAD A FY MAM.
Bwriedid ar y cyntaf gyflwyno y llyfr hwn i goffadwriaeth fy mam yn unig, ond gan im golli fy nhad hefyd cyn ei ddygiad allan, yr wyf yn dymuno ei gyflwyno i goffadwriaeth y ddau. Ymadawodd fy mam â'r fuchedd hon yn Nolgellau, nos Sul, y 12ed o Fedi , 1875, a dodwyd hi i orwedd yn mynwent Capel Salem, Dolgellau, brydnhawn y dydd Iau dilynol.
Ar ol mwy na phedair blynedd wedi, cymerwyd fy nhad hefyd ymaith gan angau, yn yr un dref, brydnhawn dydd Llun, y 5ed o Ebrill, 1880. A dodwyd yntau i orwedd wrth ochr fy mam , brydnhawn y dydd Iau canlynol.
- Eu hunig fab,
- ROBERT PRYS MORRIS
- Eu hunig fab,