Tudalen:Cantref Meirionydd.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y CYNWYSIAD

——————

MEIRIONYDD

Am enw Meirionydd–Ei meddianiad gan y Gwyddyl—Enilliad Meirionydd a lleoedd eraill gan y Cymry–O barth amseriad ymgyrchoedd y Gwyddyl, a'u gorchfygiad–Genfael Wyddel, Gwydion ab Don, a Gwyddyl eraill y ceir son amdanynt mewn cysylltiad a'r helyntion hyn–Hefyd Cynedda Wledig a'i feibion, ac eraill o Gymry y ceir eu henwau mewn cysylltiad a'r unrhyw ryfelwaith–Ciwdodau o wahanol enwau yn cael eu cyd alw yn Wyddyl, a Gwyddyl Ffichdi neu Fficati –am y Gwyddyl Pictiaid, a'r Gwyddyl Gaflachawdda Gwyr Denmarc

Am yr ymrafaelion blin a gwaedlyd a fu rhwng y Cymry a'u gilydd ya Nghantref Meirionydd, neu mewn cysylltiad a'r fan–Y penaethaid milwrol yn y cwerylon-Y Cymry yn defnyddio Saeson ac eraill ynddynt–Llaw gan frenin Lloegr yn gyru penaethiaid Cymreig yn erbyn eu gilydd, a Meirionydd yn dioddef o'r herwydd–Cyfeiriad at yr helyntion ynglŷn a'r Cymry yn eu cyngrair a'r Barwniaid a ymladdent am fwy o ryddid cyfansoddiadol, Dewis Llywelyn ab Gruffydd ac Ywain ei frawd yn dywysogion Gwynedd, mewn adeg wasgedig ar y Dalaeth–Y ddau dywysog yn dod i heddwch a brenin Lloegr–Gorchfygiad y tywysogion Ywain a Dafydd, gan Lywelyn eu brawd–Y tywysog Llywelyn yn enill y Berfeddwlad oddiar wyr y tywysog Edwart, ac yn cymeryd Meirionydd iddo ei hun–Sefydliad Mynachlog y Cymer–Y tywysog Dafydd ab Llywelyn, Harri frenin Lloegr, y Pab ac Abadau Aberconwy a'r Cymer

Am helaethder Meirionydd henafol, neu Gantref Meirionydd,