Tudalen:Cantref Meirionydd.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MEIRIONYDD

GAN mai yn Swydd Feirionydd y gorwedd y rhanbarth sydd yn dwyn cysylltiad arbenig a'r llyfr hwn, nid anmhriodol cyfleu yn ei ddechreu y sylwadau cyffredinol a ganlyn am y swydd a'r diriogaeth y cafodd ei henw oddiwrthi, sef Meirionydd, neu Gantref Meirionydd.

Nid unfarn pawb am y rheswm y gelwir y fan yn Feirionydd. Dywed rhai i'r enw darddu oddiwrth Merfyn Frych, tad Rhodri Mawr. Ond pa faint bynag o debygolrwydd a ganfyddwyd yn yr enwau,—y mae yn rhaid ystumio llawer ar Merfyn cyn gwneyd Meirionydd o hono.

Dywed eraill mai oddiwrth Meirion ab Tybiawn, ab Cynedda, Wledig, y tarddodd yr enw. Ond yn Ngwehelyth Iestyn ab Gwrgan, yn Ysgrifau Iolo, mynegir y gelwid y fan yn Feirionydd oddiwrth Meirion ab Dingad, ac iddo fod yn "arlwydd" yno cyn myned yn frenin. Ymddengy's mai rhwng y ddau hyn y mae'r dorch am darddiad yr enw oddiwrthynt. Ac os nad oddiwrth y blaenaf o's ddau y cafodd yr enw i ddechreu, yna, feallai i bwysigrwydd yr helynt rhyfelawg y cyfeirir ato gan hanesyddiaeth neu draddodiad, fel wedi cymeryd lle yn erbyn y Gwyddyl yn ei amser, achlysuro priodoliad tarddiad yr enw oddiwrtho, a dodi y llall heibio i gryn fesur yn yr achos hwn. Pa fodd bynag, dywed Achau a Gwelygorddau Saint Ynys Prydain ddarfod i Cynedda Wledig ddanfon ei feibion i Wynedd yn erbyn y Gwyddyl a ddaethant gyda Serigi Wyddel i Fon, a manau eraill, ac i'r meibion hyn fyned "ym mlaen y Cymry," a gyru'r "Gwyddyl o'r wlad," gan eu lladd "a dodi'n Gaethion y rhai a rodded iddynt eu heneidiau," ac ddarfod i wyr Gwynedd roddi meddiant iddynt o'r tiroedd a enillasant. Ac y mae yr un awdurdod yn ychwanegu trwy ddywedyd:-"Tybiawn ap Cynedda Wledic a ddynnillwys y Cantref gan yrru'r Gwyddyl ar ffo, ag yn y frwydr honno

efe a Ias, a Goreugwyr y Wlad a roddasant Oresgynnaeth a'r Bendefigaeth ar Feiriawn ei fab, ag o'i enw ef y gelwir y wlad honno Meirionydd, ai alw yntau Meirion Meirionydd."[1] Feallai nad ydys

  1. Iolo MSSS. tud 122.