Tudalen:Cantref Meirionydd.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O dan y penawd "Don Brenin Llychlyn," fel y dengys y dyfyniad a roddwyd eisoes, gesyd yr achlin bod Gwydion ab Don yn un o hynafiaid Eurnach Hen. Ond o dan ypenawd "Gwynedd" fe'i gosodir yn ddisgynydd o'r un Furnach, neu, fel ei gelwir yno, Urnach Wyddel, yn y modd hwn:"Gwdion Wyddel, ap Don, ap Dar ap Daronwy, ap ap Urnach Wyddel o Ddinas Ffaraon a las gan Owain Vinddu ap Maxen Wledig, a'r Urnach hwnnw a ddug Ugain Mil o'r Gwyddelod i Wynedd o'r Werddon lle tiriasant ag a fuant yno gan mlynedd a naw ar hugain." Gwelir nad ydyw y ddwy achlin hyn yn cytuno, yr hyn a brawf nad yw un o honynt yn gywir, ac ymddengys nad oes yr un -o honynt felly ychwaith. Dywedir dan yr unrhyw benawd, wedi adrodd am laddiad Serigi Wyddel gan Caswallon Law Hir, y cafwyd "ar lawr y Difalldrain" fab bychan o frawd i Serigi, sef "Daronwy ap Urnach Wyddel o Ddinas Ffaraon," ac ddarfod i bendefig urddasol o fewn dosturio wrtho "rhag ei deced ai ymddifatted,"a'i fagu "mal yn un. o'i blant ei hunan." Ac ddarfod i'r Daronwy hwn a faged yn Mon, fod wedi hyny yn un o dair gormes yr ynys hono, gan iddo "adymluyddu a'r Gwyddyl," "a dwyn y bendefigaeth o iar ai dylai o Gymro." O barth amseriad Daronwy, gellir dweyd mai os oedd mewn gwirionedd yn frawd i Serigi, a'i fod o oedran mor ieuanc pan gwympodd Serigi, y rhaid ei osod rywbryd rhwng lladdiad Serigi a dyfodiad Maelgan Gwynedd i afael a llywodraethiad Gwynedd. Sylwa y Proff. John Rhys[1] mai llygriad o ryw enw tebyg i Sitrig ydyw Serigi, wedi ei gymeryd allan yn fwngleraidd o gyd-destyn Lladin, ac mai tywysog o'r enw Cadwallon o'r 10fed ganrif oedd Caswallon, ac nid tad Maelgwn. Ond nis gellir dymchwelyd hanesyddiaeth y Man-Gofion o barth Syrigi neu Serigi trwy ddyfaliad o'r fath.

Yn y crybwyllion Cof Cyfarwyddyd, yn Ysgrifau Iolo, dywedir mai o dwyll y cafodd Gwydion ab Don "fraint Coron a Phendefigaeth Ar Fon ac Arfon a'r Cwmmwd y Gan amherawdr Rhufain am yrru Cenedl y Cymry o'u Tiroedd a rhoi rhoi y tiroedd hynny ir Gwyddelod a Gwir Llychlyn." Wrth y "Cwmmwd" yn y fan hon golygir Meirionydd, fel yr ymddengys, neu ynte y rhanbarth lle y saif. Ond pa faint bynag o nawddogaeth a ddichon i'r ciwdodau hyn gael gan ymerawdwyr Rhufain, nid o dan nawdd yr un o honynt y cafodd Gwydion afael ar y gwledydd hyn.

Y mae yn ymddangos mai yn y cyfwng rhwng lladdiad Serigi Wyddel a meddianiad y llywodraeth ar Wynedd gan Maelgwn Gwynedd yr ydys i osod amseriad rhwysg Don, a Gwydion ei fab, yn

y rhan yma o'r wlad. Canys o dan y penawd "Maelgwn Hir" yn

  1. Celtic Britain tud, 243.