CANTREF MEIRIONYDD. ROBERT OLIVER REES
Oedd fferyllydd a llyfrwerthydd yn Nolgellau,—ei dref enedigol. Bu farw tua phump o'r gloch foreu dydd Sadwrn, y 12fed o Chavefror, 1881, yn 62 mlwydd oed, a rhoddwyd ei ran farwol i orwedd yn ei fedd yn mynwent newydd Eglwys Dolgellau, ar y dydd Mercher canlynol, sef yr 16eg o'r un mis. Bu yn flaenor gyda'r Trefnyddion Calfinaidd am lawer o flynyddoedd, ac yr oedd yn ddyn ymdrechgar, llawroddiog, a gweithgar gydag achosion daionus. Cyhoeddodd amryw lyfrau ar ei gyfrifoldeb ei hun neu dros eraill, sef Gwaith Dafydd Ionawr, yn cynwys cofiant am dano, wedi ei ysgrifenu gan y cyhoeddwr. Hefyd cyhoeddodd "Gysondeb y Pedair Efengyl,' sef cyfieithiad o Waith Robinson, yn cynwys llawer o nodiadau gan Mr. Rees ei hun. Arolygodd gyfrol fechan o Ganiadau Cranogwen. Cyhoeddodd Gofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd, gan ysgrifenu y Cofiant ei hunan. Ond y gwaith a wnaeth ei enw yn fwyaf adna— byddus oedd llyfryn bychan yn rhoi "Hancs Mari Jones, y Gymraes fechan heb yr un Beibl," yr hwn sydd wedi ei gyfieithu i amryw ieithoedd. Argraffodd fil o lyfrau o hono yn yr iaith Gassiaeg, gan eu rhoddi yn antheg i'r Gymdeithas Genhadol ar Fryniau Cassia. Ysgrifenodd gryn lawer i'r "Goleuad," newyddiadur wythnosol; ac hefyd i'r Frythones," cyhoeddiad misol, dan olygiad Cranogwen, rhifyn cyntaf o ba un a ddaeth allan yn y flwyddyn 1879. Ysgrifen— odd mewn rhan hanes ei ymweliad âåg Ysgolion Sabbothol Dosbarth Dolgellau yn háf y flwyddyn 1879, ond ni fu fyw i'w orphen. Ar— graffwyd mil o nifer o'r ysgrif anorphenol hon ar draul ei chwaer, erbyn hyn y ddiweddar Mrs. Williams, Dolgellau, i'w rhoddi yn anrheg ymysg aelodau Ysgolion Sabbothol y Dosbarth hwn. Ni fu erioed yn briod. Yr oedd yn hànu o du ei fam o Yweniaid Pantphylip, yn mhlwyf Llan Gelynin, y rhai a hanent o Lewys Ywain y barwn, disgynydd o Ednywain ab Bradwen, un o Bymtheg Llwyth Gwynedd. Daliai gysylltiad perthynasol â'r Yweniaid hyn trwy fod Cathrin Rees ei fam yn ŵyres i Beti (Elizabeth) Ywain, yn ol ei chyf— gwyryfol, yr hon oedd fodryb o chwaer ei dad i Mr. Elis Owen, tad Mr. Edward Owen, preswylydd a pherchenog presenol y lle. Brawd enw Mr. Robert Oliver Rees ydoedd y diweddar Mr. William Rees, blaenor gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Nhywyn Meirionydd. Y mae un o'i chwiorydd yn fyw, sef Mrs. Elizabeth Roberts, gynt o Diged by Google