y syniad yr ydys newydd nodi am y Pictiaid mewn perthynas â'r Werddon, oblegid y gwisga wedd rhy ddiweddar.
Cyfeirir at y Celyddoniaid gan Tacitus[1] fel Brytaniaid, ond golyga iddynt darddu o'r Ellmyn, gan eu hystyried yn wahanol eu disgyniad i'r rhai o breswylwyr Prydain ag a dybia eu bod yr un bobl a'r Gâliaid, neu drigolion tir Gâl. Ac ymddengys eu golyga yn wahanol eu tarddiad i holl breswylwyr eraill yr ynys. Ond cymer yr Almaen mewn helaethder eangfaith, yn cynwys y cenhedloedd mwyaf gogleddol o'r Cimbriaid, Gothoniaid, a Sueoniaid; o'r rhai y dywed Stillingfleet[2] bod yn dra thebygol y disgynodd y Celyddoniaid. Ac ymddengys y golyga Pezron[3] lluoedd o'r Cimbriaid a'r Celtiaid, neu'r Gâliaid, ymsefydlu yn yr Almaen. Er hyny, nis gellir casglu oddiwrth a ddywed Tacitus i'r Celyddoniaid darddu oddiwrth y Celtiaid na'r Gâliaid. Dywed Stillingfleet, wrth gyfeirio at y Celyddoniaid:-"A'r rhai hyn, os nad wyf yn camgymeryd, ydoedd y Pictiaid gwreiddiol, ond heb gael eu galw wrth yr enw hwnw hyd nes y daeth trefedigion newyddion drosodd i boblogi'r wlad ar ol ei hangyfaneddiad dychrynllyd trwy barhad y rhyfeloedd Rhufeinig." Sylwa hefyd mai o'r Scythiaid Ewropaidd y tarddodd y Celyddoniaid, a dywed y cynwysa Scythia Ewropaidd "yr holl genhedloedd mwyaf gogleddol, 'ab Extremo Aquilone,' medd Pliny: ac mewn man arall dywed, bod y Getiaid, y Daciaid, a'r Sarmatiaid, ac hyd yn nod yr Ellmyniaid yn cael eu galw yn Scythiaid." Ac o barth y rhai mwyaf penodol o'r Scythiaid ag y gesyd ddisgyniad y Pictiaid, dywed nad ydyw dyfaliad Hector Boethius o gwbl yn annhebygol, yr hwn, meddai, sydd yn eu tynu "o'r Aythyrsiaid, h.y., oddiwrth 'breswylwyr glan mor Llychlyn," neu fel yr eglura ei hun: "oddiwrth y rhai a ddaethant gyntaf allan o Sarmatia i Chersonese y Cimbriaid, ac oddiyno i'r Alban." Ond gellir sylwi yma y dywed Pezron y byddai y Gomeriaid a breswylient yn Asia yn cael eu galw yn yr oesoedd boreuaf gyda chenhedloedd eraill o dan yr enw Scythiaid. Ac wedi eu dyfod i Ewrop y byddai y Groegiaid yn eu galw yn Geltiaid Scythiaidd. Sylwa y Proff. John Rhys mai Gwyddelod oedd y Celyddoniaid. Nid oes ond ychydig o eiriau o'r Pictaeg wedi dyfod i lawr yn uniongyrchol i ni. A dywed Skene am yr iaith hon nad ydyw Gymraeg na Gaelaeg, ond mai tafodiaith Gaelig ydyw yn cyfranogi yn ehelaeth o arddulliau Cymreig.[4]