CESAR:
Gwae fi! A raid i Cesar ffoi!
MILWR 1[1]:
Rhaid! Rhaid! O Cesar! Neu'th garcharu gan
Caradog a'i Brydeinwyr milain, erch!
MILWR 2:
Clywch eto swn y brwydro'n agoshau[2]
(Swn y brwydro i'w glywed yn amlycach ac yn nes.)
CESAR:
Rhaid imi droi yn ol i gynorthwyo'm gwŷr.[3]
Os Cesar ffy, a'i fyddin mewn enbydrwydd,
Beth ddywed Rhufain, a beth ddwed y byd!
Dyledswydd Cesar ydyw marw gyda'r lleng.[4]
MILWR 1
Na! Na![5] O Cesar, paid!
Gall Rhufain fforddio'n rhwydd
I golli lleng o filwyr! Ond pe cai
Un Cesar ei garcharu, byddai clod
Ein Rhufain fawr dros byth dan warth!
CESAR:
Gwir! Gwir! Ymladdwyr ffyrnig yw'r Prydeiniaid hyn.
Doethineb, ac nid gwarth, yw ffoi yn awr.
MILWR 2:
Mae'n bryd![6] Can's agoshau mae'r gelyn eto!
CESAR:
Wel, awn ynte![7] Ond myn y duwiau oll,
Myn einioes Cesar hefyd, fe ddaw'r dydd
Ca Prydain wylo gwaed am y sarhad
A'r gwarth ar Cesar daflwyd heddyw!
(Y tri yn myned allan yn frysiog trwy L 3. Vellocatus yn dod i'r
golwg ac yn edrych ar eu hol.)
VELLOCATUS:
Caradog yn fuddugol! Cesar ffodd!
Os delir ef, ffarwel i bob rhyw obaith
I'm gael bod yn rhywbeth gwell na chludydd arfau
I Venutius falch! Rhaid gwylio'r cyfle,
Troi'r erlidwyr ffwrdd o'r llwybr hwn[8]
Gymerwyd 'nawr gan Cesar! Ust! Venutius yw!
(Yn ymguddio yn L2. Venutius a Milwyr Prydeinig yn dod
i fewn-R2.[9] )
- ↑ Ymafla yn mraich Cesar, gan ei dynu ymlaen, Milwr 1, Bf; Cesar Be: Milwr 2, Cd.
- ↑ Yn codi ei law, troi ei ben yn ol, a gwrando.
- ↑ Ya ysgwyd ei hun yn rhydd
- ↑ Yn troi yn ol hyd De, Milwr 1 yn ei ddilyn
- ↑ Yn ymafllyd yn mraich Cesar
- ↑ Yn cyfeirio ei law tua R 3.
- ↑ Yn cychwyn hyd Be. Yna yn troi yn ol a'i wyneb tua R 2. Yn tynnu ei gledd a'i ysgwyd yn fygythiol.
- ↑ Yn cyfeirio ei law y ffordd yr aeth Cesar
- ↑ Safant tua Cd.