VENUTIUS:
Ie, Cesar ydoedd! Ond pa ffordd yr aeth?[1]
Ha! Dyma olion traed ryw ffoedigion! Dowch![2]
(Vellocatus yn ymddangos yn L1, yn chwifio ei gledd noeth.)
VELLOCATUS:
Ffordd yma yr aeth Cesar.[3].Nid yw'n mhell!
Dowch daliwn ef!
VENUTIUS:
A welaist ef! Hwre! Awn! Daliwn Cesar!
(Ant allan ar ol Vellocatus tray L1. Milwyr Rhufeinig eraill yn
dod i fewn R3, gan edrych yn ddychrynedig wysg eu cefnau, a
foi allan-L2. Milwyr Prydeinig A'u cleddyfau noeth yn erlid
yr un llwybr Genwissa, Merch Cesar, yn dod i fewn—R2,
yn llesg a dychrynedig.)
GENWISSA:
Och fi! Pa beth, pa beth a wnaf!
Fy nhad ar ffo—a llengoedd Rhufain fawr
Yn orchfygedig! Minnau—beth a wnaf[4]
Ni feiddiaf ffoi y ffordd yr aeth fy nhad:
Anwaraidd lu sy'n erlyn ar ei ol!
Nis beiddiaf fyn'd yn ol—os aros wnaf
Daw'r gelyn ar fy ngwarthaf.
O'r duwiau mawr! O dacw hwynt yn dod!
(Syrthia i'r ddaear mewn llewyg. Afarwy, Brawd Caradog, a Milwyr
Prydeinig yn dod i fewn—R 2. Venutius a'i gymdeithion yn
dychwelyd—L1. Yn cyfarfod.)
VENUTIUS A'I FILWYR:
Afarwy D'wysog! Henffych![5]
AFARWY:[6]
Ac iti, Venutius ddewr. Pa hanes sydd?
(Genwissa yn dadebru; yn codi ei phen, a gwrando.)
VENUTIUS:
Diangodd Cesar ar ein gwaethaf oll!
Mae bellach yn ei wersyll wrth y môr.
GENWISSA:[7]
I'r duwiau y bo'r diolch!
- ↑ Edrych o gwmpas
- ↑ Cyfeirio a'i fys at ol traed, ac yn cychwyn tua L.3.
- ↑ Cyfeirio ei gledd at L1
- ↑ Tra yn siarad, rhodia ol a blaen o Ca i Ag ac yna i Ed lle y syrthia. Yn yr ymddiddan wedyn saif Afarwy tua Cc a'i wyr tu ol iddo; saif Venutius tua Bf a'i wyr tu ol iddo yntau; bydd Genwissa felly o hyd yngolwg y gynulleidfa.
- ↑ Yn cyfarch Afarwy
- ↑ Yn cyfarch yn ol
- ↑ Yn codi ar ei gliniau a phlethu ei dwylaw mewn diolch.